Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Toc daeth at y llidiart fel y dywedai y dyn wrthi. Ceisiai wneyd allan yn y gwyll a oedd rhywbeth yn gynefin yngolwg y lle—yr oedd y dyn wedi son am yr afon—ond yr oedd y goleu wedi pallu gormod. Cyn y gallai gyrraedd drws y ty clywai swn cadwen yn cael ei llusgo hyd y cerrig palmant, a rhuthrodd ci mawr arni. Nid oedd arni ofn cwn yn gyffredin. Yr oedd dau gi Ty Mawr ymhlith ei chyfeillion goreu. Ond nid oedd y ci yma yn debyg i Spot a Carlo. Teimlai ei ddannedd yn gafael yn ei mantell, ac yn ei dychryn gollyngodd afael yn y cerdyn oedd wedi ddal yn ei llaw o hyd. Diangodd fodd bynnag gan adael darn o’r brethyn yn ei grafangau. Aeth allan drwy y lidiart ac i lawr ffordd gul at y gors gydag ochr yr hon y rhedai lli llonydd distaw yr afon. Nid oedd o ryw lawer o bwys ei bod wedi methu myned at ddrws Brynteg y Llan. Mae yn debyg nad oedd ei nain yno mwy nag yn y lleoedd eraill oedd wedi bod yn holi. Fel y crwydrai yn unig gyda glan yr afon llithrodd ei throed ar y gwellt gwlyb, a theimlai yr oerni esmwyth ar ei gwyneb. Gwelai y ser uwch ei phen. Caeodd ei llygaid. Mor felus oedd gorffwyso ar ol y crwydro maith. Llithrodd yn araf, araf nes y golchai y dwfr ei gwyneb, ac y sisialai drwy ei gwallt hir.

Cafwyd hi boreu drannoeth gan rai o weision Brynteg, ei mantell lâs wedi troi am hen foncyff oedd gyda glan yr afon, a chludwyd hi heibio’r ardd, lle yn yr haf y tyfai y “rhosyn mynydd” a’r blodau eraill y gwyddai am danynt mor dda, ac heibio’r berllan a’i choed afalau ac eirin yn sefyll yn noeth yn awr, i ysgubor yr amaethdy, lle gorweddai ar hen gist a’r dwfr yn araf dreiglo o’i dillad ac o gudynau