Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei gwallt. Syllodd y dynion am ennyd ar y gwyneb prydferth llonydd, ac yna aethant allan yn ddistaw ar flaenau eu traed, fel pe yn ofni ei deffroi o gwsg mor dawel.

Nid oedd neb yn y lle pan ddaeth gwr Brynteg a’i wraig i fewn i weled y crwydryn bach oedd wedi cyfarfod a’i diwedd yn nyfroedd oer afon y llan. Safai’r ddau un o bobtu’r gist, hen wr a hen wraig a’u gwallt wedi gwynnu, a’u llygaid yn llawn prudd-der. Fel y syllai’r wraig ar y gwyneb bychan daeth enw dros ei gwefusau nad oedd wedi ei seinio ers blynyddoedd lawer, a meddai, “Yn tydi hi’n debyg i John pan oedd o’n hogyn bach. Lle mae o heddyw tybed?” Edrychodd ei gwr i’w gwyneb am eiliad, ac yna trodd ac aeth allan yn frysiog, ond arosodd gwraig Brynteg ychydig yn hwy gyda’r plentyn marw, a chyn ymadael plygodd ei phen a chusanodd y talcen oer, a rhoddodd ei llaw ar y dwylaw bychan tra y codai llanw adgof yn ei chalon nes peri i'r dagrau ddisgyn dros ei gruddiau llwydion rhychlyd.

Claddwyd Margiad bach fel crwydryn ym mynwent y plwyf lle safai Brynteg. Yr oedd ymchwiliad wedi cael ei wneyd am dani yng nghymydogaeth Ty Mawr pan wybuwyd ei cholli, ac yr oedd Robert Williams mewn pryder mawr yn ei chylch, ac yn beio ei hun na fuasai wedi mynnu dod a hi i Dy Mawr er gwaethaf ei wraig. Ond nid oedd ei chyfaill bychan Wil mewn pryder o gwbl am dani. Yr oedd yn ddiogel yn nhy ei nain erbyn hyn. Buasai yn caru dyweyd wrth ei dad, ond cofiai ei fod wedi rhoddi ei air i Margiad bach na fyddai iddo ddyweyd wrth neb, rhag ofn iddi gael ei chymeryd i’r “wyrcws.”