fel gorchudd dros ei gwyneb. Cododd ei phen ar ofyniad Gwilym, ac meddai, gan edrych tua'r ardd,—“O Gwilym, wel di'r dŵr mawr? Fedrwn ni ddim mynd yn ol.”
Trodd Gwilym a gwelodd fod y cwch wedi symud ymhell o'r lan, ac yn dal i symud i lawr yr afon, gan adael y ty a'r ardd a phopeth adnabyddus. Dychrynnodd ar hyn. I wneyd pethau yn waeth yr oedd yn dechreu nosi, a thorrodd Babi allan i grio; nid oedd y dagrau ymhell o lygaid Gwilym, ond ceisiodd gysuro Babi. “Aros, Babi,” meddai, “paid a chrio, 'na i waeddi." A gwaeddodd yn uchel,— “Mami, mami.” Ond nid oedd dim llais yn ateb. Daliai Babi i grio yn dorcalonnus, ac ni wyddai Gwilym beth i'w wneyd. Ymhen ychydig meddyliodd y buasai yn dweyd ei bader. Yr oedd yn cofio y byddai yn gofyn i Iesu Grist ei gadw yn sâff. Ond cododd dadl yng nghalon Gwilym; yr oedd wedi bod yn hogyn drwg, wedi anufuddhau i'w fam, a dywedai ei galon wrtho fod hynny yn digio yr Un y byddai yn dweyd ei bader wrtho. Nid oedd diben meddwl y buasai hwnnw yn ei gadw ef, ac yntau wedi ei ddigio. Ond Babi, nid oedd hi wedi gwneyd dim drwg. Aeth ar ei liniau yng ngwaelod y cwch, plygodd ei dwylaw a chauodd ei lygaid. Peidiodd Babi a chrio, ac edrychai ar ei brawd â llygaid glâs mawr synedig. Beth oedd Gwilym yn wneyd? Wrth liniau Mami yr arferent blygu eu dwylin. Meddai Gwilym,—“Mistar Iesu Grist, 'tydw i ddim yn gofyn i chi 'nghadw i achos yr ydych chi wedi digio hefo fi; ond Babi, O cadwch hi yn sâff, os gwelwch yn dda. Tydi hi ddim wedi gwneyd dim byd. Peth bach ydi hi; ddim