Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mwyaf yn fy ngolwg, bydd i mi yn fwy na'm coron, a'm gorsedd, ac ni raid i chwi ymadael â hi, canys cewch ei gweled hi beunydd, cewch weled ei hapusrwydd, ac yna y byddwch chwithau hefyd yn hapus.”

Ac felly yr aeth y brenin ag Anwylaf, a'i thad a'i mam gydag ef i'w blas.

Ac ar ddiwrnod ei briodas, efe a ddanfonodd am Iestyn i gael ei farnu yn llys y brenin yng ngwydd holl drigolion y ddinas. Ac yr oedd llawer o dystion yn ei erbyn. A galwodd y brenin holl wŷr doeth y wlad i wrando ei achos, ac i roddi barn arno.

Ac ymgrymodd Iestyn, y llywodraethwr drygionus oedd wedi gorthrymu'r gwan a'r tlawd, o flaen yr orsedd, i dderbyn ei ddedfryd. Ac ar yr orsedd wrth ochr y brenin eisteddai Anwylaf, a choron aur ar eì phen; ei gwisg oedd o sidan symudliw, ac yr oedd prydferthwch ei gwynepryd fel prydferthwch y wawr. Yna un o'r gwŷr doeth a safodd i fyny ac a ddarllennodd mewn llais uchel y ddedfryd hon,—

“Gwrando, O Iestyn, yr hwn a fradychaist dy frenin, ac a fuost greulon ac angharedig wrth y gwan a'r diniwed, gan eu cau mewn carcharau, a'u hamddifadu o freintiau eu bywyd. Yr ydym ni yn gweled mai felly sydd yn gyfiawn wneyd â thithau. Ac yna ti a gludir i gell dywell, ac yno y byddi fyw am weddill dy einioes, heb weled goleu dydd byth mwy, lle nis gelli edrych ar wyneb y nefoedd, na chanfod yr haul na'r lloer na'r ser, na theimlo ar dy wyneb yr awel iach yn chwythu, a lle ni chlywi na llais dyn nac anifail, ond y trigi o ddydd i ddydd mewn tywyllwch, fel dyn dall, heb wybod gwahaniaeth rhwng nos a dydd. Dyma ein dedfryd ni arnat ti. Fel y gwnaethost i eraill, felly y bydded i tithau.”