Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II. PWY FENTRAI I'R GOEDWIG DDU.

Tra yr oeddynt yn synnu beth oedd yr achos bod y fath gyfnewidiad yn y bwthyn, ac yn ceisio dyfalu pa le yr oedd Bronwen, daeth Gruffydd i fewn; a dechreuodd y tri ei holi. Nid oedd ganddo ddim i ddweyd, ond ei fod wedi bod yn torri coed drwy y dydd ychydig o bellder o'r tŷ; a phan oedd yr haul yn machlud ei fod wedi dyfod a chael yr un olwg ar y lle ag oedd arno yn awr. Yr oedd er hynny wedi bod allan yn ceisio Bronwen yn y goedwig, ond nid oedd wedi cael dim o'i hanes; ac ar ganiad corn Gwilym yr oedd wedi dychwelyd i edrych a oeddynt hwy wedi ei gweled ar eu ffordd gartref. Ac wrth ddiweddu yr oedd llygaid Gruffydd yn llenwi, a'i lais yn crynnu, oherwydd yr oedd yn ofni fod rhyw niwed wedi dìgwydd iddi—bod rhyw fwystfil wedi rhuthro o'r coed a'i lladd.

Pan orffennodd Gruffydd, dechreuodd y tri ei ddwrdio yn enbyd am na buasai wedi gwylio Bronwen yn well. “Ond beth sydd i ddisgwyl,” meddai un, “oddiwrth greadur llwfr fel tydi? Pe buasai rhyw fwystfil yn dod i'w llarpio, ni fuaset yn gwneyd dim ond gwaeddi.” Ac yr oedd gan bob un ei air brwnt, ac yr oeddynt yn dweyd mai arno ef yr oedd yr holl fai yn gorffwys fod Bronwen wedi ei cholli. Ni atebodd Gruffydd yr un gair; ond aeth i geisio cynneu tân ar yr aelwyd, ac yna i wneyd y swper yn barod goreu y gallai, a rhyw niwl yn dod i'w lygaid a rhyw chwydd i'w wddf bob tro yr ai heibio y delyn yn y gongl. Digon aniolchgar yr eisteddodd y tri wrth y bwrdd, a llawer o rwgnach oedd am nad oedd y bwyd wedi ei baratoi mor drefnus ag y byddai Bronwen yn arfer gwneyd. Tra yr oeddynt yn bwyta aeth