Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

llidiog dros ei ben, ac yr oedd yn meddwl mai suddo i ddyfnder yr afon y buasai, ond cyrhaeddodd yr ochr arall o'r diwedd. Arweinia y llinell goch ef i fyny at borth y plas oedd wedi ef weled drwy y coed. A hwnnw oedd y plas rhyfeddaf welodd Gruffydd erioed, yr oedd ei furiau o farmor du, ac yr oedd barrau o ddur gloew ar bob ffenestr. Yr oedd yn fwy tebyg i garchar, a dyna yn wir ydoedd. Curodd Gruffydd wrth y porth, ac agorodd y porth iddo o hono ei hun.

IV. CARIAD BRAWD.

Cafodd Gruffydd ei hun mewn neuadd fawr. Ac yn un cwr yr oedd gorsedd, ac arni ddyn yn eistedd. Ni welodd Gruffydd neb a golwg mor ffyrnig arno.

“Beth wyt yn ei geisio?” gofynnai iddo mewn llais dychrynllyd, a phrin yr oedd gan Ruffydd ddigon o wroldeb i ateb yn grynedig ei fod wedi dod i geisio ei chwaer Bronwen.

“Wedi i mi gael carcharor, ni fyddaf yn ei gollwng yn rhydd heb dâl mawr am wneyd hynny. Onibai am y ffon lwyd sydd yn dy law buaset tithau yn garcharor, ond ni allaf gymeryd neb yn gaeth os bydd ganddynt un o ffyn Prydferth gyda hwy.”

Yr oedd Gruffydd yn methu gwybod beth allai ei roddi i'r swynwr am ollwng Bronwen yn rhydd. Nid oedd ganddo ddim gwerthfawr; yn wir nid oedd ganddo ddim yn y byd. Tra yr oedd yn sefyll ynghanol y neuadd yn ceisio dyfalu beth i wneyd, clywai swn gruddfannau yn esgyn o'r cellau o dan y neuadd, lle ’roedd y carcharorion yn cael eu poenydio yn ol gorchymyn y swynwr; ac yn eu plith yr oedd llais Bronwen yn ocheneidio.