Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/61

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

un o fewn y pentref fuasai yn dweyd eu bod yn brydferth yn awr, tra y sonient beunydd am brydferthwch ac anwylwch Gwen. A'r dirgelwch oedd hyn,—carai Gwen bawb o'i hamgylch, tra y carai y ddwy arall neb ond eu hunain.

Er bod Gwen yn hiraethu ar ol ei thad, ac yn gofidio am ei bod wedi gadael yr ardd brydferth am byth, eto ymegniai i fod yn galonnog er mwyn cysuro ei mam, yr hon oedd fel yn gwanychu gan ei galar. Ac yn wir cafodd Gwen, er ei bod wedi colli yr ardd, cafodd fod yn y wlad flodau a choed lle y nythai llawer o adar, ac yr oedd hefyd aml i blentyn tlawd. Ond nid oedd gan Gwen yn awr ddim ond geiriau caredig a'i dagrau i roddi iddynt, a charent hi am hyn gymaint ag a wnai y rhai yn y dref, ac yr oedd llawer un claf yn hoffi iddi ei wylio wrth ochr ei wely yn y nos, am fod cyffyrddiad ei llaw fel balm.

Yn y pentref lle y trigai y fam a'i thair merch yn awr, yr oedd hanes rhyfedd yn cael ei adrodd. Dywedid fod yn tyfu yn yr amgylchoedd flodau rhyfedd,—galwent hwy yn flodau arian. Elai yr hwn oedd mor ffodus a chael hyd i rai ohonynt yn gyfoethog tuhwnt i ddychymyg. Yr oedd llawer o geisio wedi bod am y blodau hyn; ond ychydig iawn oedd wedi eu cael. Yr oedd dau neu dri o deuluoedd wedi dod i feddiant o rai ohonynt, a synnai y rhai oedd yn chwilio yn ddibaid ymhob man, ac yn crwydro milltiroedd er mwyn dod o hyd iddynt, mai y rhai hynny na fyddent byth yn gadael eu goruchwylion i'w ceisio oedd wedi eu cael. A mawr oedd yr holi oedd arnynt, ond ysgydwai y rhai ffortunus hyn eu pennau. Nid oedd ganddynt ddim i'w ddweyd am hyn, nid am nad oeddynt yn ewyllysio i'w cymdogion gael yr un