Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/69

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y MARCHOG GLAS.

I. MERCH Y BRENIN.

YR oedd brenin unwaith a chanddo un ferch, a'i henw Gwawr. Ac yr oedd fel ei henw. A bu ei mam farw, ac yna yr oedd y dyddiau yn hir ac unig i blentyn y brenin yng nghastell caerog ei thad, a chysgod nos a lechai yn ei llygaid yn lle goleuni y boreu.

Un diwrnod aeth y brenin allan i ryfel â brenin arall, a phan ddaeth yn ei ol yn orchfygwr, yr oedd gydag ef fachgen a'i lygaid fel y dwfr dwfn oedd o amgylch y castell, a'i wallt yn troelli'n ddu ar ei ysgwyddau; ac ni wyddai neb pwy ydoedd. Y milwyr a'i cawsant yn crwydro hyd faes y frwydr yn wylo yn chwerw, a dywedai rhai mai mab y brenin gorchfygedig ydoedd. Holodd tad Gwawr ef, ond atebai'r bachgen mewn iaith ddieithr, a pharhaodd i wylo ar hyd y ffordd i'r castell. Yr oedd Gwawr yn sefyll yn y porth yn disgwyl ei thad, a phan welodd y bachgen hi, peidiodd ei ddagrau a llifo, a daeth cysur iddo. A chan na wyddent ei enw yn y castell galwasant ef Gwych. Ac o'r dydd hwnnw nid oedd y dyddiau mwyach yn hir i Wawr, nid oedd hi chwaith yn unig, a'r cysgod a giliodd o'i llygaid, a goleuni'r bore ddaeth yn ol. A dysgodd Gwych y geiriau siaradai merch y brenin, ac anghofiodd bron yr oll o eiriau ei iaith ei hun. Ac yr oedd yn y castell hen delynor, yr hwn a chwareuai i’r brenin y cerddi a hoffai. Weithiau chwareuai yn fwyn a thyner, gerddi am yr adar a'r blodau a cherddi serch, a gwenai y brenin. Tro arall