Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tarawai'r tannau â llaw gref, a chlywid bloedd y gâd, yn y nodau, a thaniai llygaid ei feistr, ond yr oedd y telynor yn hen iawn, ac yn fwy mynych byddai ei gerdd yn cwynfan am y milwyr, yr arwyr oedd wedi syrthio ar faes y frwydr; ac fel y cofiai y brenin am ei farchogion dewr oeddynt a'u breichiau yn ddinerth yn lonyddwch angau, deuai prudd-der i'w lygaid wrth wrandaw y tannau hiraethus yn wylo. A charai yr hen delynor y ddau blentyn Gwych a Gwawr, a dysgodd i Wych pa fodd i dynnu'r mwynder o'i hen delyn, ac ymhen amser daeth y bachgen i chwareu mor felus a'r telynor. Ac yna y bu farw yr hen wr a gwnaeth y brenin Wych yn delynor yn ei le. A Gwawr oedd y brydferthaf yn y wlad, a soniai pawb am ei thegwch. Canai y beirdd iddi eu cerddi mwynaf, ond gwell oedd gan ferch y brenin glywed swn y tannau pan chwareuai Gwych, telynor ei thad, arnynt.

Ac i lys y brenin deuai marchogion dewraf y byd, ac yr oedd pob un o honynt yn deisyf cael Gwawr yn wraig iddo ei hun. A Gwych a edrychai arnynt fel y llanwent y neuadd, a meddyliai ynddo ei hun y byddai un o honynt yn myned a merch y brenin gydag ef i ffwrdd i'w wlad ei hun ryw ddydd; ac O! fel y cwynai y delyn wrth i'r telynor feddwl mor ddu ac oer fyddai y castell heb oleuni ei phrydferthwch; ac O! na fuasai ef ei hun yn farchog, yn gwisgo arfau gloew, ac yspardynau aur, ac yna feallai — ond diweddai ei gerdd mewn cri gwylofus. nid oedd ond telynor y brenin.

Un diwrnod, ni chlywid swn y tannau yn neuadd y castell. Yr oedd y delyn yno, ond yr oedd y telynor wedi mynd; ac ni wyddai