Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neb y ffordd a gymerodd. Ac yna cysgod nos a ddaeth i lygaid merch y brenin, cysgod trymach na'r un orweddai ynddynt pan safai ym mhorth y castell pan yn blentyn, ac y gwelodd Gwych am y tro cyntaf. Ac nid oedd mwyach fel ei henw, a Gwawr a gludodd y delyn i'w hystafell ei hun, ac a'i gosododd wrth ei ffenestr, a phan ddisgynnai'r hwyr yn ysgafn dros y dyffryn islaw, safai a'i phen yn pwyso ar y delyn, yn gwylied y porth, ac fel yr elai y nos yn dduach disgynnai y dagrau i lawr yn araf hyd y tannau. — Gwyliai'r porth pan fyddai'r wawr yn torri, a phan fyddai'r hwyr yn cau am y wlad, ond ni ddeuai'r un a ddisgwyliai drwyddi, ac ni chlywid mwy swn y delyn yn y castell, eithr yr oedd yn fud, a'i thannau wedi eu rhydu gan y dagrau a ollyngai Gwawr merch y brenin arnynt.

Ac felly yr aeth y dyddiau heibio, a deuai y marchogion o hyd i ymofyn Gwawr yn wraig, ac yn eu plith un diwrnod daeth marchog a'i wisg yn harddach, a'i arfau yn fwy disglair ac yn fwy ysplenydd na'r un. Mantell o felfed glâs oedd dros ei ysgwyddau, ac uwch ei helm gloew y chwifiai pluen lâs. Ar gefn march gwyn y daeth, a glâs oedd y cyfrwy a'r ffrwyn, ac arian yn eu haddurno, a'r genfa a'r ddwy werthol oedd o arian. A galwasant y marchog hwnnw y Marchog Glâs. A Gwawr a'i gwelodd ef yn dod drwy borth y castell gyda'r hwyr, fel y safai yn gwylio a'i phen yn pwyso ar delyn Gwych y telynor.

O'r amser yma penderfynodd y brenin fod yn bryd i'w ferch Gwawr briodi, ac ni wyddai i ba un o'r marchogion y byddai oreu iddo ei rhoddi, gan eì fod yn frenin doeth, ac yn gwybod