Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/72

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

bod mai nid wrth yr olwg allanol y mae adnabod dyn, a bod gwisg hardd a gwyneb teg yn aml yn cuddio calon ddu. A gwnaeth amod â'r oll o honynt, eu bod i fyned allan i'r byd am ddeuddeng mis, a'r un gyflawnai y weithred ddewraf yn ystod yr amser hwnnw oedd i fod yn wr i'w ferch. Gwawr ei hun oedd i farnu, ar y dydd y deuent yn ol, pa un oedd y weithred deilyngaf.

Yna yr aeth y marchogion allan o lys y brenin, allan o wyddfod prydferthwch Gwawr, a chyda hwynt elai'r Marchog Glâs, yr hwn nad oedd neb wedi gweled ei wyneb, oherwydd nid oedd wedi diosg ei helm drwy yr amser y bu yn y castell.

II. GWIR WRHYDRI.

Ac ymhen y flwyddyn daeth y marchogion yn ol. Ac ar y diwrnod hwnnw eisteddai Gwawr wrth ochr ei thad i wrandaw yr hyn yr oeddynt wedi wneyd yn ystod y deuddeng mis, ac i farnu pa un o honynt oedd wedi cyflawni'r weithred fwyaf teilwng. A'r naill ar ol y llall daeth pob marchog o'i blaen, gan adrodd y gwrhydri yr oedd wedi ei wneyd. Yr oedd un wedi bod ymhlith rhai yn gwarchae ar ddinas gaerog, ac efe oedd y cyntaf i ddringo ei muriau, ac i blannu baner ei fyddin ar ei thŵr. Yr oedd un arall wedi bod mewn ymdrech â phump o wŷr ar unwaith, ac wedi eu lladd â'i gledd ei hun. Yr oedd un arall wedi marchog drwy wlad y gelyn yn ddiofn yng ngoleuni dydd. Ac felly yr aethant ymlaen nes oedd y marchogion i gyd ond un wedi dweyd ei hanes, a'r un hwnnw oedd y Marchog Glâs. Safai ymhen draw y