Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

neuadd, a'i ben yn pwyso ar ei fynwes. Yr oedd golwg prudd arno, ac edrychai'n flinderus, ac fel pe wedi dod o bell ffordd. Yn ddistaw y safai, ac wedi i'r llu marchogion orffen, ni chynhygiodd ddweyd gair. Wedi disgwyl ychydig, gofynnodd y brenin oedd ganddo ef ddim gweithred ddewr i ddweyd am dani; ond ysgydwodd ei ben, ac meddai, — “Nac oes un gwerth ei chrybwyll.”

Yna trodd y brenin at Gwawr gan ddweyd, — “Yn awr fy merch Gwawr, barna di pa un o'r dewrion hyn sydd wedi cyflawni'r weithred deilyngaf.” A thrist iawn ydoedd merch y brenin; oherwydd yr oedd yn meddwl am Wych, telynor ei thad, ac ni welai yr un o'r marchogion mor deg a gwrol ag oedd ef, ac nid oedd yn chwennych priodi yr un o honynt. Ond yn y dyddiau hynny rhaid oedd i bob merch ufuddhau i orchymyn ei thad, ac felly Gwawr. Ond cyn y gallai ddweyd pa un o'r marchogion oedd wedi gweithredu yn fwyaf teilwng, daeth gŵr ymlaen o ganol y dorf oedd yn gwrando ymhen isa'r neuadd, ac meddai mewn llais uchel, —

“Mae gennyf fi air i ddweyd wrth y dywysoges Gwawr o blaid y Marchog Glâs. Un noswaith ar ol brwydr galed gorweddai milwr ar faes y frwydr wedi ei glwyfo yn dost, a daeth nifer o farchogion heibio yn dilyn ar ol y gelyn. Gyrasant eu meirch heibio, ac ambell un yn carlamu dros y milwr clwyfus, heb wrandaw ei gri am gymorth. Ond trodd un o'r rheng, a chan ddisgyn oddiar ei farch gwyn, cododd y milwr yn ei freichiau, gan ei ddodi ar gefn ei anifail, ac aeth ag ef i lety, ac yno y gweinyddodd arno am ddyddiau lawer, gan anghofio