Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yr anrhydedd yr oedd y marchogion ereill yn ennill wrth ddilyn yr ymdrech. Y Marchog Glâs oedd yr un hwnnw wnaeth y cariadwaith hwn, ac yr wyf yn gofyn i ti, O Wawr, merch ein brenin, onid ydyw y weithred hon yn fwy teilwng na'r un sydd wedi ei hadrodd o dy flaen?” A thawodd y gŵr yng nghanol distawrwydd dwfn, a syllai pob llygad ar y Marchog Glâs. Trodd y brenin at Wawr, ond cyn y gallai yngan gair, daeth hen wr ymlaen a'i war wedi crymu, a'i farf wen yn disgyn ar ei fynwes, ac mewn llais crynedig deisyfodd ar y brenin adael iddo ddweyd ychydig eiriau. Wedi cael caniatad meddai,—

“Un diwrnod yr oeddwn yn teithio yn flinderus ac yn llesg ar hyd y ffordd a fy maich ar fy nghefn, a gwelwn farchog ar farch gwyn yn dod fy nghyfarfod. Ciliais o'r ffordd er mwyn iddo fyned heibio heb wneyd niwed i mi, ond safodd y march wrth fy ymyl, ac wedi siarad ychydig â mi, disgynnodd ei feistr i'r llawr, a chan godi fy maich oddiar fy nghefn dododd ef ar ei farch, a dywedodd wrthyf am esgyn i'w le, ei fod yn ei roddi at fy ngwasanaeth, ac yna aeth ymaith heb aros i dderbyn fy niolch, a mae'r march wedi bod o gymorth mawr i mi ddwyn fy meichiau hyd y ffordd unig. Dacw'r marchog wnaeth hynny,” gan estyn ei law grynedig at y Marchog Glâs. “Ac O ferch y brenin, beth feddyli di o'r weithred hon?”

Unwaith eto ataliwyd Gwawr rhag ateb drwy i wr arall ddod ymlaen â chrefu am ryddid i siarad. “ Yr oedd gŵr,” meddai, “a chanddo ddau blentyn, ac yr oeddynt yn amddifad o bob perthynas arall ond un ewythr a drigai mewn gwlad bell; a bu farw tad y plant, a chyn