Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/75

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

tynnu ei anadl olaf dywedodd wrth y ddau blentyn am geisio myned at ei frawd, eu hewythr. Ac yr oedd taith o agos i bedwar mis i'r wlad lle yr oedd ef yn byw, a chychwynnodd y ddau allan yn unig, heb wybod yn iawn pa ffordd i gymeryd. A'r diwrnod cyntaf o'u taith, fel yr oedd yn nosi, a hwythau wedi eistedd wrth ochr y clawdd yn teimlo'n ofnus ac yn wylo, daeth marchog heibio iddynt, ac wedi eu holi, danfonodd hwynt yr holl ffordd i dŷ eu hewythr, gan eu gwarchod a'u hamddiffyn yn gariadus ar hyd y ffordd. Ac yn awr saif y marchog hwnnw yn y fan acw,” a chyfeiriodd ei law at yr un a'r bluen lâs yn plygu uwch ei helm. “Gwyddai fy meistr, ewythr y plant amddifad, yr hyn oedd i gymeryd lle heddyw, a danfonodd fi ar ol eu cynorthwywr i ddweyd yr hanes hwn er ei glod, gan y gwyddai na fyddai yn hysbys trwy ffordd arall, gan fod y marchog yn gwadu iddo wneyd ond hynny oedd yn ddyledus arno fel dyn. Ac yr wyf finnau hefyd yn gofyn, — Onid wyt ti'n tybied mai hon ydyw'r weithred deilyngaf sydd wedi ei hadrodd heddyw?”

Yna y llefodd y dorf enw y Marchog Glâs, a chododd Gwawr merch y brenin ar ei thraed, a distawodd y lleisiau, yna dywedodd,

“Yr wyf finnau o'r un farm a chwi, O wŷr fy nhad, mai yr hyn a gyflawnodd y Marchog Glâs sydd fwyaf teilwng o anrhydedd. Mewn hunanaberth y mae gwir ddewrder; a thithau, yr hwn y geilw dynion y Marchog Glâs, dynesa a diosg dy helm.”

Ac eisteddodd merch y brenin wrth ochr ei thad drachefn; a daeth y Marchog Glâs ymlaen, a phan gyferbyn a'r orsedd diosgodd ei