Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/76

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

helm a'r miswrn oedd yn cuddio ei wedd, a'i wyneb oedd gwyneb Gwych, telynor y brenin gynt. Yna y cododd Gwawr drachefn a'i gwisg yn disgleirio o'i hamgylch, ond mwy oedd disgleirdeb prydferthwch ei gwyneb, a chiliodd y cysgod o'i llygaid, a rhoddodd ei llaw yn llaw yr un oedd wedi hiraethu am dano cyhyd, ac meddai, a'i llais yn canu drwy y neuadd,— “Croesaw, croesaw i ti, O Wych.”

Ond yr oedd mwy yn edrychiad ei llygaid ac yng nghyffyrddiad ei llaw nag yn y geiriau hyn.

Yna y dywedodd Gwych ei fod ar ei deithiau wedi dod o hyd i wybodaeth oedd yn profi mai ef yn wir oedd mab y brenin hwnnw orchfygwyd gan dad Gwawr, yn yr amser gynt, pan ddaeth i'r castell gyntaf. A phan wybu fad Gwawr hyn rhoddodd i Wych deyrnas ei dad, a theyrnasodd ef a Gwawr arni yn gyfiawn, ac yn eu plas yr oedd y delyn. Ond ni ddisgynnodd dagrau hyd ei thannau mwy, ac nid oedd rhwd i'w ganfod hyd-ddynt.