Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HEN FERCH.

I

“BARBARA, Barbara, paid a thorri fy nghalon â’th ffolineb. Caiff Magdalen fyw hefo ni, a chei ofalu am dani fel yr wyt ti’n gwneyd yrwan.”

Ysgydwodd Barbara ei phen.

“Nid fel ’rydw i’n gwneyd yrwan fyddai hi, Huw. Y peth diweddaf ddwedodd fy mam wrtha i cyn marw oedd,—‘Paid byth a gadael Magdalen, Barbara! Mi wneis innau addaw y cai hi fod fy ngofal cynta. Ac wel di, Huw, mi fyddwn yn torri fy ngair i fy mam wrth wneyd yr hyn wyt ti yn ofyn i mi.”

“Ie, ond Barbara, wyt ti yn meddwl pe buasai dy fam yn gwybod sut mae hi rhyngom ni, y buasai hi yn gofyn hyn i ti? ’Twyt ti ddim yn meddwl y buasai yn dda ganddi dy roi di a Magdalen yn fy ngofal i?”

“Dwn i ddim, Huw,” meddai ag ochenaid, “’rydw i yn meddwl mai fy nyledswydd ydyw aros hefo Magdalen.”

“Dyledswydd wir! 'rwyt yn ddigon a gwylltio undyn. Son am reswm merch; ’rydw i'n ei brofi ’rwan beth bynnag. Yr oeddwn yn meddwl dy fod yn fy ngharu, ond gwelaf nad wyt ti ddim. O leiaf, yr wyt yn caru dy chwaer yn fwy.”

Edrychodd Barbara arno fel y safai o’i flaen yn dal a syth, pelydrau diweddaf y gorllewin yn tywynnu ar ei wyneb, syllodd yn ei lygaid oedd yn edrych arni mor ymbilgar. Ddim yn ei garu! A garodd ferch wr erioed fel y carai hi Huw? Nid oedd yn meddwl, Onid oedd