Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/78

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ganddo ryw syniad mor galed oedd iddi hi ei anfon oddiwrthi, a throi ei gwyneb oddiwrth serch, oddiwrth ddedwyddwch, er mwyn cadw ei gair i’w mham, a gwneyd yr hyn y teimlai oedd yn iawn? Suddai ei eiriau i’w chalon, fel pe bai bob un o ddur miniog, ond tyner iawn yr atebai,

“Nid cwestiwn o garu mwy neu garu llai sydd yma, Huw. Ond yr ydw i wedi addaw.”

“Ac felly, mae pob peth ar ben rhyngom ni?”

Plygodd Barbara ei phen, ac ni welodd Huw y dagrau oedd ym llenwi ei llygaid. Trodd ar ei sawdl heb air yn ychwaneg, a gadawodd hi yn sefyll a’i phwys ar lidiart yr ardd, yn syllu arno yn brasgamu oddiwrthi, heb unwaith droi ei ben yn ol; a phan aeth o’i golwg heibio troad yn y llwybr, teimlai fel pe buasai darn o’i bywyd wedi myned gydag ef. Clywai chwibaniad y gwylanod yn dod o gyfeiriad y môr; nid oedd wedi sylwi o’r blaen mor wylofus oedd y cri: disgynnai ar ei chlust fel clul prudd, o ffarwel, ffarwel i bob gobaith, i’r holl freuddwydion euraidd. Torrwyd ar ei meddyliau hiraethus gan lais gwan plentyn yn galw,—“Barbara, Barbara.” Sychodd Barbara y dagrau oedd ar ei gruddiau,—nid oedd wiw gadael i Fagdalen weled ei bod wedi bod yn crio,—a phrysurodd i’r tŷ.

“O mi ’rydw i wedi blino, Barbara, lle buost ti mor hir? Mae Dot hefyd wedi rhedeg allan.” Gorweddai plentyn ar soffa wrth ymyl y ffenestr; gwyneb bach gwyn iawn a godwyd oddiar y glustog i gyfarch Barbara. Wrth ochr y soffa yr oedd dwy faglen, a dywedent yn ddistaw ei hanes bach i gyd. Yr oedd Magdalen yn