Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gloff. Nid allai symud heb gynorthwy y baglau, ac yn ddigon poenus felly, a’r oll o achos diofalwch morwyn yn gadael iddi syrthio pan yn fabi. “Pawb wedi dy adael di? Wel, dyma fi wedi dod yn ol,” meddai Barbara, gan fyned ar ei gliniau wrth ochr y soffa. Rhoddodd ei breichiau am Magdalen, a gosododd y pen bach blinedig i orffwys ar ei hysgwydd, yn y dull yr oedd hi yn ei hoffi. Estynnodd Magdalen ei llaw a thynnodd hi yn esmwyth hyd wyneb ei chwaer. “Mae hi yn anifyr iawn hebot ti, Barbara,” meddai.

Teimlai Barbara ryw esmwythdra yn dod trosti o dan gyffyrddiad y llaw fach deneu, a cheisiodd ddifyrru Magdalen nes y daeth yn amser iddi ei chario i’w gwely. Arhosodd wrth ei hochr nes oedd hi wedi cysgu, ac yna diffoddodd y ganwyll a chododd len y ffenestr. Yr oedd y lleuad yn tywynnu’n ddisglair, a thaflai ei phelydrau ariannaidd i mewn i'r ystafell. Draw yn y pellter gwelai Barbara oleu yn un o ffenestri Pen y Bryn, a gwyddai fod Huw yn parotoi i fyned i ffwrdd hefo’r tren boreu, yn ol i’r dref fawr Seisonig lle y dilynai ei orchwyl fel clerc mewn masnachdy. Dechreuodd y frwydr drachefn yn ei chalon. Yr edd yn tybied ei bod wedi rhoddi terfyn arni y prydnawn, ond wele’r hen ddadl yn codi eto. Oedd hi yn gwneyd yn iawn yn ei anfon oddiwrthi fel y gwnaeth? Onid oedd yn cario ei syniad o ddyledswydd yn rhy bell?

Cerddai yn ol a blaen rhwng y gwely a’r ffenestr, yn awr gwelai y goleu yn fflachio yn eglur o ffenestr Pen y Bryn, yna disgynnai ei llygaid ar y gwyneb bychan ar y gobennydd, yn ddisglair wyn yng ngoleu y lleuad. Yr