Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd ei chalon yn cael ei thynnu ddwy ffordd. Oedd raid iddi roddi ei bywyd i gyd? Er bod Huw wedi ei gadael fel y gwnaeth, gwyddai nad oedd eisieu iddi ond anfon gair ato nag y deuai yn ol. Ond gaiff hi anfon y gair hwnnw?

Pwysodd ei thalcen ar y gwydr oer. O na chai ryw sicrwydd pa beth oedd yn iawn! O hyd disgleiriai y goleu’n glir drwy y ffenestr; disgynnai ar y bwrdd wrth ei hochr; gwibiai ar hyd y llyfrau arno, fflachiai ar ymylon aur ei Beibl. Cofiodd Barbara am hen gyfaill i’w mham, yr hon a arferai pan mewn rhyw amheuaeth ynghylch ei dyledswydd agor ei Beibl, a’r geiriau y disgynnai ei llygaid arnynt gyntaf fyddent i roddi terfyn ar y ddadl. Llawer gwaith y bu, Barbara yn gwenu wrth ei gweled yn defnyddio y moddion “hen ffasiwn;” a gwenai yn awr at ei phlentynrwydd ei hun tra y goleuai y ganwyll ac yr agorai y llyfr. Ciliodd y wên ac aeth rhyw arswyd drwyddi pan ddisgynnodd ei llygaid ar y geiriau,—“Nid oes neb a’r sydd yn rhoi ei law ar yr aradr, ac yn edrych ar y pethau sydd o’i ol, yn gymwys i deyrnas Dduw.” Ai damwain oedd? Ni fynnai Barbara gredu hynny. Yr oeddynt fel atebiad i’w holl erfyniadau am arweiniad. Onid oedd hi yn edrych yn ol wedi dechreu ar ei gwaith? Yr oedd ganddi un peth i’w wneyd eto. Tynnodd agoriad o'i phoced, ac agorodd flwch bychan oedd ym sefyll ar y bwrdd. Tynnodd allan y trysorau oedd ynddo. Trysorau! Rhosyn wedi gwywo oedd un. Gwyddai ar ba bren yr oedd wedi tyfu wrth ochr drws Pen y Bryn. Yr oedd yn cofio Huw yn ei roddi iddi. Yr oedd hynny ers talwm iawn, cyn iddo fynd i Loegr, pan oedd ei serch heb fyned