Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/81

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ymhellach nag edrychiad. Wrth ei ochr yr oedd sprigyn o “hen wr,” hwnnw hefyd yn sych a chrin. A’r trysor olaf oedd darlun. Feallai nad oedd yn ddarlun hardd iawn, nad oedd y gwynepryd yn brydferth. Buasai ambell un yn dweyd, hwyrach, nad oedd y talcen ddigon uchel, un arall nad oedd y trwyn yn ddigon ffurfiol i ateb i ddeddfau prydferthwch dynol; ond i Farbara—i Farbara Huw oedd efe, nid oedd diffyg ynddo o gwbl. Fodd bynnag nid arhosodd i syllu ar y darlun yn awr, ond gan ei gymeryd ym un llaw gyda'r rhosyn a'r hen wr, cymerodd y ganwyll yn y llall ac aeth i lawr y grisiau ar flaenau ei thraed.

Yr oedd tân y gegin yn llosgi'n goch a safodd uwch ei ben, ac heb gryndod llaw gollyngodd ei thrysorau un ar ol un i'w ganol. Teimlai fel pe bai ei hieuenctyd wedi ei dorri yn dair rhan, ei bod yn eu llosgi y naill ar ol y llall. Plygodd ei dwylaw ac edrychodd arnynt yn diflannu. Nid oedd y sugn wedi myned i gyd o’r rhosyn, clywai ef yn sio, sio. Crebychai y darlun gan y gwres, gwelai y fflamau yn difa y gwynepryd, a meddyliai fod llygaid Huw yn edrych yn alarus arni o ddyfnder y tân. Peidiwch a gwenu, yr oedd Barbara o ddifri. Iddi hi yr oedd yn wir drychineb, er i’r edrychwr feallai nad oedd y digrifol ddim ymhell. Pan ddychwelodd i’w hystafell yr oedd y goleu wedi diffodd yn ffenestr Pen y Bryn, y lleuad wedi disgyn y tu ol i’r waen, a thywyllwch yn teyrnasu oddiamgylch. Ond gyferbyn a’i ffenestr disgleiriai seren fawr,—mor bur, mor ddistaw oedd ei thwyniad. Daeth rhyw dawelwch sanctaidd dros ysbryd Barbara; gwyddai fod yr hen amheuon ar ben, fod yr ymdrech drosodd, ac mai yn goncwerwr y daeth allan.