Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

II.

Hanes syml iawn ydyw hanes Barbara. Nid oedd ei bywyd, fel bywyd llawer un, yn hynod am ddim ond ei dreialon a’i brofedigaethau yn ei gorffennol. Ond dyddiau mwy blin oedd eto yn ei haros, pan feddyliai nad oedd cymorth i’w gael yn unman. Hyd yn hyn ni wyddai hi ystyr y gair tlodi o gwbl, ond yn awr yr oedd i wybod ei ddioddefiadau dyfnaf a'i bigiadau mwyaf miniog. Torrodd yr ariandy ymha un yr oedd ychydig gyfoeth y ddwy chwaer amddifad, ac nid oedd dim yn aros ond y bwthyn gwledig yr oeddynt yn byw ynddo. Y peth cyntaf ddaeth i feddwl Barbara oedd sut i gadw yr aflwydd oddiwrth Fagdalen,—Magdalen oedd yn dioddef cymaint eisoes, nid oedd wiw dweyd wrthi.

Ceisiai ddyfalu pa beth i’w wneyd, pa fodd i ennill cynhaliaeth iddynt ill dwy, pa fodd i gadw ei chwaer fel na fuasai yn gwybod fod dim allan o le.

O foreu tan mos, a bron o nos fan foreu, y gweithiai allan gynlluniau, ond ni wnai yr un y tro. O’r diwedd penderfynodd geisio gwaith fel gwniadreg,—“cymeryd i fewn waith plaen,” fel y dywedir. Druan o Farbara, yr oedd ei baich yn drwm. Meddyliai weithiau am werthu y ty, ond wedyn ni fedrai oddef y peth. Fe dorrai Magdalen ei chalon ym sicr pe byddai raid iddi fyned i ffwrdd o olwg y rhiw ac o swn murmur yr afonig oedd yn rhedeg yng ngwaelod y cwm.

Er mwyn cadw Magdalen mewn anwybodaeth o’u sefyllfa, yr oedd yn rhaid iddi lafurio yn yr oriau pan y byddai hi yn cysgu. Nid