Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/83

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

oedd yn gynefin â'r gwaith, a buan y gwnaeth ei argraff arni.

“Wyddost ti be, Barbara,” meddai Magdalen wrthi ryw ddiwrnod, “’dwn i ddim beth sy arnat ti, mae dy lygaid yn gochion, ac ’rwyt yn crychu dy dalcen, nes wyt ti’n edrych fel hen wraig, a mae dy fysedd wedi mynd mor deneu fel maent yn brifo fy ngwyneb.”

Magdalen ddiniwed, ni wyddai ddim am y nosweithiau maith yr eisteddai Barbara yn ceisio ennill cynhaliaeth iddynt, ac mai goleu y ganwyll oedd yn gwneyd i’w llygaid edrych fel pe buasai yn wylo yn barhaus. Ond daliai Barbara ati o hyd. Pwy ŵyr yr holl gur calon, yr holl ocheneidiau oedd ynglyn â phob pwyth o'r gwniadau hir ddeuai o’i llaw yn yr amser hynny, pan yr oedd mor dlawd fel yr oedd yn methu fforddio y tamaid a roddai i Dot y gath, oedd gymaint ddifyrrwch i Fagdalen.

Ymhell i’r nos y tywynnai ei chanwyll allan pan fyddai holl oleuadau y fro wedi diffoddi, pan fyddai y goleu wedi myned allan yn hen amaethdy Pen y Bryn oedd i’w weled o’i ffenestr.

Yno hefyd yr oedd y blynyddoedd wedi dod a chyfnewidiadau,—yr hen wr, tad Huw, wedi ei gasglu at ei dadau, a Huw wedi dychwelyd i gymeryd gofal y fferm, a’i wraig gydag ef. Nid oedd y ffaith yma wedi cyffwrdd â theimladau Barbara o gwbl. Yr oedd wedi myned allan o’i bywyd gyda chysgodau y gorffennol, ac yn y presennol yr oedd hi yn byw, a chwerw iawn oedd y presennol hwnnw. Yr oedd Magdalen yn marw, ni allai gelu y ffaith oddiwrthi ei hun yn hwy. Yr oedd yn gwywo bob dydd, y gwyneb bach yn myned yn wynnach, wynnach. Wedi eu taflu o'r neilldu yr oedd y ddwy faglen,