Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/84

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a gwyddai Barbara na fyddai angen eu cynhorthwy mwy, na chai byth glywed eu swn ar y llawr. Gorweddai Magdalen yn llonydd iawn drwy y dydd. Yr oedd rhyw dawelwch mawr wedi dod drosti, rhyw amynedd dieithr wedi meddiannu ysbryd y plentyn. Ni chlywyd ond yn anaml yr hen gŵyn ei bod wedi blino. Meddyliai Barbara weithiau fod cysgod gorffwystra tragwyddol wedi disgyn arni yn y misoedd diweddaf o’i bywyd.

“Symudwch hi i le dipyn cynhesach,” meddai y meddyg, “mi estynnith hynny dipyn ar ei bywyd.” Yr oedd ei eiriau yn watwaredd i Farbara; ni wyddai ef, yn ei ddiniweidrwydd, faint oedd wedi ddioddef er mwyn talu iddo am ei ymweliad.

Pan ddaeth y rhew a'r eira gyntaf ar y ddaear bu Magdalen farw. Nid oedd Barbara yn meddwl fod y diwedd mor agos. Prydnawn ydoedd yng nghanol mis Rhagfyr; oddiallan disgleiriai y ddaear rewllyd dan belydrau machlud haul. Gorweddai Magdalen yn ddistaw iawn a’i llygaid yng nghaead, a meddyliai Barbara ei bod yn cysgu. Syllai arni, mor debyg i angeu oedd yr olwg ar ei gwyneb. Aeth rhyw ddychryn drwy ei chalon, a chyffyrddodd yn ysgafn a’i thalcen. Cododd yr amrantau gwynion, ac edrychodd Magdalen arni. Yr oedd rhyw olwg pell yn ei llygaid fel pe buasai wedi syllu ar bellteroedd tudraw i olwg dynol. Rhoddodd Barbara ei breichiau am dani fel byddai arfer, a meddyliodd mor drwm oedd y pen bach ar ei hysgwydd,

“Cana i mi, Barbara,” sibrydai.
“Beth gamaf, f'anwylyd?”
“Am Dduw yn sychu'r dagrau.”