Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/88

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Dedwyddwch Bobbie oedd cael digon o geiniogau i dalu am gysgod allan o'r stryd, ac yn enwedig ar noson wlyb, oer; ond nid oedd yn debyg o gael hynny heno, a chymysgai ei ddagrau a'r dafnau gwlaw ar ei ruddiau teneu.

Tarawodd yr un cloc eto darawiad y chwarter, a thrôdd y bachgennyn bach carpiog ei lygaid yn y cyfeiriad. Yr ochr arall i’r stryd yr oedd eglwys, yn nhŵr yr hon yr oedd y cloc yr ydoedd wedi glywed yn taro. Disgleiriai goleu yn ei ffenestri. Yr oedd gwasanaeth nos cyn Nadolig yn cael ei gynnal ynddi. Ni wyddai Bobbie ddim am Nadolig, ac nid oedd erioed wedi bod mewn eglwys. Yr oedd y drws yn llydan agored, a gwibiodd Bobbie ar draws y stryd rhwng y bobl oedd yn myned a dod yn frysiog. Yr oedd yn edrych yn braf iawn tu fewn i'r eglwys. Edrychodd i fyny ac i lawr y palmant, nid oedd yr un plismon, dychryn bywyd Bobbie, yn y golwg yn unman. Nid oedd gobaith iddo gael gwerthu ei fatches wrth aros yn y stryd. Aeth yn nes at y drws, a rhoddodd ei ben i mewn. Ychydig o bobl oedd wedi dod ynghyd eto, yr oedd braidd yn gynnar, ac yr oeddynt a’u cefnau ato i gyd. Ond O mor gynnes oedd yr awyr! A mor braf oedd y goleu! Ac ni welodd Bobbie erioed le mor wych, yr oedd yn rhagori ar ffenestri y siopau yn fawr. Braidd heb ymwybod iddo ei hun, aeth yn ddistaw ac araf heibio bost y drws ac i mewn i sêt yn ymyl. Yr oedd un o’r colofnau yn gorffwys Wrth ymyl yr eisteddle yma, a chuddiwyd ffurf bychan y plentyn o olwg y rhai ddeuai i mewn.

Wrth swatio ar y glustog, teimlai Bobbie fod y byd dipyn bach llai anifyr, yr oedd llawer iawn cynhesach beth bynnag, pe buasai ganddo grystyn i'w gnoi ni fuasai raid cwyno. Pwysodd