Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

ei ben ar gefn y sêt, nid oedd yn cyrraedd at yr ymyl, a daeth rhyw gysgadrwydd drosto, ond aeth yn effro iawn pan ddechreuodd yr organydd chwareu yr anthem Nadolig, ac y dechreuodd y côr ganu. Yr oedd y naill beth yn rhyfeddach na'r llall i Bobbie, ond y peth mwyaf rhyfedd a mwyaf prydferth, y peth goreu glywodd ef erioed, oedd yr hyn ddywedai y gŵr oedd yn siarad. Adroddai am y doethion yn dilyn y seren, ac yn cael hyd i’r plentyn sanctaidd, yn cael hyd i’w Gwaredwr, ac yna desgrifiai y Gwaredwr yma mor fwyn, mor dyner, mor garedig ydoedd, a'r croesaw oedd yn roddi i’r rhai ddeuai ato, fel y cofleidiai hwynt, a’r fath gysur a gorffwysdra melus ddenai iddynt, wedi iddynt ei gael, ac y dygai hwynt i’w gartref, lle na byddai na phoen na thristwch, nag eisieu o unrhyw fath. Yr oedd eisieu llawer o bethau arnynt yn awr; yn y dreî fawr honno feallai fod amryw eisieu bara y nos Nadolig hwnnw, ond wedi cyrraedd ei gartref ef ni fyddai arnynt eisieu mwy. Nid oedd Bobbie yn deall y bregeth air am air, ond dyma un peth yr oedd yn brofiadol iawn ohono. Ar y terfyn erfyniai y gŵr arnynt ddilyn “Ei seren ef” hyd onis caffont ef. Yr oedd y Gwaredwr yma yn eu cymhell, bawb ohonynt, yr oedd yn eu gwahodd,— “Deuwch ataf fi bawb ar y sydd yn flinderog ac yn llwythog.” Rhoddodd Bobbie nod â'i ben yn frysiog. Dyma beth eto yr oedd yn ei ddeall, a phenderfynodd ddilyn y seren hyd nes y deuai o hyd i’r hwn y soniai y gŵr am dano. Ond pa le’r oedd y seren? Nid oedd yr un i'w gweled pan ddaeth i mewn o'r gwlaw. Petrusai Bobbie yn fawr hyd nes y gwelodd y bobl yn codi i fyned allan, ac yna rhedodd drwy y drws mewn eiliad o flaen yr un. Yr oedd wedi peidio