Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/90

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

gwlawio. Cododd Bobbie ei ben a syllodd ar yr awyr. Yr oedd yn glir a rhewllyd, dim cwmwl yn unman, a channoedd o ser yn disgleirio yno, ond yn union o’i flaen yr oedd un seren, a phenderfynodd ar unwaith mai honno oedd y seren,— “Ei seren ef.” Yr oedd mor fawr a gloew, ac yn tywynnu mor dyner ac esmwyth, yr oedd fel yn gwenu arno. Cychwynnodd Bobbie yn ei chyfeiriad. Aeth heibio siop fara, a daeth eisieu bwyd yn ol iddo. Trôdd at y drws ac aeth i mewn, a phrynnodd dorth fechan. Nid oedd angen cadw y geiniog i gael ychwaneg o fatches yfory. Ni fyddai arno eisieu bwyd byth wedi iddo ddod o hyd i’r dyn hwnnw, y Gwaredwr hwnnw, yr oedd newydd glywed sôn am dano. Cododd ei lygaid i edrych oedd y seren yno o hyd, ac wrth ei gweled aeth yn ei flaen yn galonnog dan gnoi ei dorth, a meddwl am y dyn hwnnw yr oedd y seren yn ei arwain ato. Yr oedd yn methu peidio synnu o hyd fod arno ei eisieu ef. Hyd yn hyn, ar ffordd pawb yr oedd wedi bod. Erlidid ef gan bob plismon welai, ac yr oedd pawb yn cilio oddiwrtho. Nid oedd ar neb ei eisieu; ond yr oedd hwn, y Gwaredwr yma, yn gofyn iddo ddod ato, yr oedd y gŵr hwnnw oedd yn siarad yn yr eglwys wedi dweyd hynny.

Cadwai Bobbie ei olwg ar y seren yn ddibaid, a cherddai yn yr un cyfeiriad. Yr oedd wedi myned ymhell iawn yr oedd yn meddwl. Yr oedd wedi gadael y dref erbyn hyn, ac yn cerdded ar hyd ffordd yn y wlad, ffordd rhwng dau glawdd du, heb dai o amgylch yn unman, dim ond yr awyr fawr lydan uwch ei ben a’r sêr fel llygaid gloew yn ei wylio, a’i gyfaill, y seren fawr, yn gwenu arno. Buasai ar Bobbie ofn, onibai am ei seren ef.