Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/91

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Yr oedd wedi troi i rewi; ac yr oedd carpiau gwlybion Bobbie yn caledu yn araf am dano, a’r ffordd yn myned yn wrymiau mawr o dan ei draed, ac yn boenus iawn i’w cherdded. Teimlai Bobbie yn bur flinedig, ac yr oedd ei galon yn dechreu gwanhau. Er ei fod yn dilyn y seren o hyd, nid oedd yn dyfod yn agosach ati o gwbl, nac yn gweled ei fod yn dod yn nes at y Gwaredwr. Wedi cerdded ychydig ymhellach, meddyliodd y buasai yn eistedd i orffwys wrth ochr y ffordd o dan y clawdd, ac y buasai yn gwylio y seren o hyd rhag ofn ei cholli, ac eisteddodd ar y ddaear oer, a’i lygaid yn gwylio y seren yn ddyfal. Ond er ei waetha cauodd ei amrantau, syrthiodd ei ben ar ei fynwes, a daeth cwsg ato. A thra yr oedd Bobbie yn cysgu o dan gysgod y clawdd, a’r seren fawr yn ei wylio ef yn awr, cafodd freuddwyd brydferth a rhyfedd.

Breuddwydiodd ei fod yn dilyn y seren o hyd, a’i bod o’r diwedd wedi ei arwain i ryw wlad decach nag oedd Bobbie erioed wedi dychmygu am dani. Ac yno gadawodd y seren ef, ond yn ei lle tywynnmai yr haul yn ddisglair, â chynhesai ei belydrau ei gorff bach oer. Ar y llawr yr oedd rhywbeth gwyrdd esmwyth, ac yr oedd ei gyffyrddiad yn lliniaru y doluriau ar ei draed. Yr oedd yno flodau hefyd na welodd eu tebyg yn holl ffenestri y siopau mawr yn y dref, ac yr oedd eu harogl yn felusach na dim wyddai am dano. Ond er mor deg oedd y wlad, ac er mor felus arogl y blodau, yr oedd Bobbie yn teimlo yn bur flinedig, ac hiraethai am ddod o hyd i'r dyn hwnnw oedd ei eisieu. Yr oedd llawer o bobl yn ei gyfarfod, a golwg hardd arnynt oll. A phenderfynodd Bobbie holi un ohonynt, harddach na neb welodd erioed, a hwnnw oedd y Gwaredwr. A chymerodd Bobbie