Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/92

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

yn ei freichiau, a rhoddodd y pen bach lluddedig i orffwys ar ei fynwes, ac o dan y cyffyrddiad sanctaidd, ciliodd gofidiau Bobbie yn llwyr; iachawyd ei holl ddoluriau; ac wrth syllu yn y gwvneb tyner bendigedig yr oedd Bobbie yn berffaith ddedwydd, a phob eisieu ei galon bach newynog wedi ei ddigoni.

Ond diangodd yr oll, a deffrôdd o dan y clawdd ar ochr y ffordd yn y tywyllwch mawr. Trodd ei lygaid i edrych am y seren, ond yr oedd honno hefyd wedi diflannu fel y breuddwyd dedwydd. Yr oedd cawod o eira yn disgyn yn ysgafn. Nid oedd diben myned yn ei flaen ymhellach, ni allai byth gael hyd i’r wlad dêg a’r gŵr a’r dwylaw tyner, a’r gwyneb addfwyn, heb y seren, ac yr oedd honno wedi diflannu. Arhosai yno, feallai y deuai i’r golwg eto yn y man. Nid oedd yr eira mor oer ag arfer, chwaith, a chauodd Bobbie ei lygaid drachefn, a syrthiodd hun fwy dwfn ano.

Aeth oriau y nos heibio yn araf, a pheidiodd yr eira a disgyn. Yn y dwyrain torrodd y Wawr yn dyner oleu, ac yr oedd yn ddydd Nadolig. Tywynnai heulwen felen wannaidd ar ruddiau Bobbie. Daeth robin goch a siglodd ei hun ar frigyn yn y clawdd du uwch ei ben. Gwnai ryw swm bach fel yn ceisio canu, ond yr oedd yr eira a’r oerni yn ei ddigalonni, a siglai ar y brigyn a’i ben yn ei blu. Ymhen eiliad aeth y frongoch yn fwy hyf; lledodd ei adenydd bychain, a disgynnodd ar law oer y plentyn, a dechreuodd ei esgus gân drachefn. Ond nid oedd galwad y frongoch, na chusan esmwyth yr haul oedd yn araf doddi yr eira hyd ei wallt, yn gallu deffro y cysgadwr bach carpiog. Yr oedd breuddwyd Bobbie wedi dod yn wir. Nid oedd ei fyd yn anifyr mwy.