Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

HUW.

BWTHYN bychan, gwyngalchog, ar ochr bryn oedd cartref Huw. Meddyliai ef mai hwnnw oedd y bwthyn harddaf yn yr holl wlad.

Nid oedd gan Huw frawd na chwaer. Pe buasech yn gofyn iddo a oedd ganddo dad buasai yn dweyd “Oes;” a phe gofynnech ymhellach ymha le yr oedd ei dad yn byw cawsech yr ateb,—“Yn y nefoedd y mae mam yn dweyd y mae o, ac mi rydan ni yn mynd yno ryw ddiwrnod hefyd.”

Er fod Huw heb dad ar y ddaear, na brodyr na chwiorydd i gyd-chwareu ag ef, eto nid oedd yn teimlo yn unig nac yn annedwydd. Yr oedd ei fam ganddo. Os oedd Huw yn meddwl nad oedd bwthyn tebyg i’w gartref ef, yr oedd yn gwybod mad oedd y fath fam a’i fam ef yn y byd i gyd. Nid oedd gan yr un wraig yr edrychai arni wallt mor euraidd na llygaid mor dirion, ma gwên mor anwyl ag yr oedd ganddi hi. Yr oedd ei fam yn dad, yn frodyr, yn chwiorydd, yn gartref, yn bopeth iddo; a breuddwydiai yn fynych am yr holl bethau yr oedd am wneyd iddi pan y tyfai yn ddyn mawr fel oedd ei dad yn y llun oedd ganddynt o hono. Syllai ef lawer ar y darlun lle yr hongiai wrth ben y simddau yn y parlwr, a dymunai’n fawr fod yn debyg iddo.

Bywyd dedwydd oedd ei fywyd y pryd hyn. O amgylch y bwthyn gwyngalchog yr oedd gardd brydferth, ac ynddi y chwareuai Huw ar hyd y dyddiau hafaidd. Hoffai y blodau yn fawr, a’i bleser mwyaf fyddai cael helpu ei fam i’w dyfrhau, a’i chanlyn o’r naill goeden