Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/94

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i’r llall i dynnu y dail gwywedig ac i osod cangen fyddai yn ymdaenu gormod yn ei lle. Yr oedd ganddynt flodau ereill i’w trin, a thyfai y rhai hynny, nid yng ngardd y bwthyn, ond yng “ngardd ’y nhad,” meddai Huw. Gardd fechan iawn oedd hon, a thaflai croes o farmor gwyn ei chysgod arni, ac heb fod ym mhell cyfodai muriau llwydion hen eglwys y plwyf. Wrth wylio y blodau yma siaradai ei fam wrtho am ei dad,—dyn mor dda ydoedd, ac fel yr oedd Iesu Grist wedi anfon am dano i fyw i’r nefoedd, a therfynai bob amser drwy ddweyd,—“A chofia di, machgen i, fod yn hogyn da, gael i ni fynd yno hefyd.” Edrychai Huw i fyny i’r awyr las uwch ei ben, ac yma syllai yn ei gwyneb, gan addaw gydag edrychiad difrifol iawn fod yn fachgen da.

Ond ni pharhaodd y dyddiau braf yn y bwthyn gwyngalchog yn hir i Huw. Pan oedd y seithfed haf o’i fywyd bychan yn dechreu tywynnu daeth cwmwl du dros y ffurfafen.

Ni welwyd ei fam yn yr ardd gydag ef yn gwylio y blodau yn awr. Elai Huw yno ar dro ar ei ben ei hun, ond nid oedd yr un swyn yno yn awr. Nid oedd yr awyr mor las na’r blodau mor wridog, nid oedd eu harogl mor beraidd ganddo. Yr oedd rhywun heb fod yno. Yr oedd eisieu ei fam arno cyn y gallai fwynhau yr ardd a’i swynion. Ond gorweddai hi drwy y dyddiau euraidd yn wan a gwelw ar ei gwely. Eisteddai Huw am oriau wrth ochr y gwely hwnnw, a’i law fechan yn cydio yn dynn yn y bysedd teneuon oedd mor anwyl ganddo. Tra y gorweddai ei fam yno, siaradai lawer wrtho am ei dad, a chrefodd lawer arno fod yn fachgen da. Un diwrnod dywedodd wrtho,—