Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

“Ydw i’n mynd at Iesu Grist i’r nefoedd Huw, a chaf weld dy dad yno.”

Edrychodd Huw yn ei gwyneb, ac meddai,—

“Gai ddwad hefo chi, mam?”

“Nid ’rwan, cariad, ond os byddi di ’n hogyn da, cei ddwad ryw ddiwrnod.”

Wylai Huw wrth feddwl fod ei fam am ei adael, er ei bod yn myned i’r nefoedd at Iesu Grist, ac yr oedd yn methu gwybod pam na chai ef fynd gyda hi, ni fyddai ei fam yn arfer mynd i unlle hebddo ef. Ond addawodd fod yn fachgen da. Rhyw foreu ymhen ychydig o ddyddiau wedi’r ymddiddan yma, daeth angel gwyn disglair i’r bwthyn a chymerodd fam Huw gydag ef i’r nefoedd, lle nid oedd mewn poen a gwendid mwy.

Ond ni chymerai yr angel Huw. Yn fuan ar ol hyn bu raid iddo ffarwelio â'r bwthyn ac â'r ardd a'i blodau gwych. Cymerodd modryb iddo ef i’w chartref. Hen ferch oedd hi. Yr oedd ganddi dŷ mwy o lawer na chartref bychan Huw, ac yr oedd ynddo ddodrefn harddach a mwy drudfawr, yr oedd hefyd yn meddwl llawer iawn o’i thy mawr a’i dodrefn hardd; ond nid oedd ganddi le yn ei chalon i blentyn bach, ac yno y dechreuodd gofidiau i Huw.

Yr oedd arno hiraeth yn y ty mawr am yr hen gegin, am ei stol fach, lle yr eisteddai wrth droed ei fam i ddysgu ei adnodau a’i emynnau bach. A mwy na’r oll, yr oedd arno hiraeth am ei fam. Nid oedd neb yn dod i osod y dillad yn wastad ar ei wely cyn iddo fynd i gysgu, nid oedd neb wrth lin yr hon yr adroddai ei weddi bach, neb i roddi cusan ar ei dalcen wrth ddweyd “nos dda.” Unig iawn y teimlai Huw druan. Yr unig gysur oedd ganddo oedd