Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/96

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

darlun oedd yn ei ystafell wely. Darlun o’r Bugail Da yn dwyn oen bach blinedig yn ei fynwes oedd. Syllai Huw lawer ar y gwyneb tirion, a chysurai ei hun drwy feddwl y deuai y Bugail Da i’w ddwyn yntau yn ci fynwes i’r nefoedd ryw ddiwrnod. Ond yr oedd llai o gysur yn y darlun ymhen ychydig, a byddai Huw yn ofni edrych ar y gwyneb addfwyn, am ei fod yn dychmygu fod y llygaid yn ei ganlyn ag edrychiad gofidus a thrist. A dyma y rheswm. Yr oedd Huw yn cael gwaith caled iawn i fod yn fachgen da yn nhy ei fodryb, a gwyddai ei fod yn fachgen drwg yn aml, a gwnai y darlun ef deimlo yn euog. Nid oedd wedi teimlo un anhawster pan yr oedd ei fam gydag ef. Ond yr oedd yn troseddu yn ddibaid yn erbyn ei fodryb. Nid oedd yr hen ferch yn amcan bod yn galed wrtho, nag yn angharedig, ond nid oedd hi’n caru nag yn deall plant, ac yn enwedig bachgen bach. Ni chai Huw redeg i fyny'r grisiau, ni chai wneyd y trwst lleiaf, a pha blentyn feder chwareu heb drwst? Ac os byddai ol ei droed ar y carped coch yr oedd Miss Thomas ym meddwl cymaint o hono, y fath ddwrdio fyddai yn gael! Gwaherddid iddo wneyd y peth yma a’r peth arall, nes oedd ei fywyd wedi mynd yn faich iddo a chwpan ei anedwyddwch bron llifo drosodd.

Yr oedd gardd fawr o amgylch ty ei fodryb, a meddyliodd Huw y buasai yn cael mwynhad wrth wylio y blodau fel yr arferai wneyd gyda’i fam yn yr hen ardd anwyl gartref, ond ni chai fynd yn agos atynt gan y garddwr. Os oedd arno eisieu bod yn yr ardd, yr oedd yn rhaid iddo gerdded yn araf ar hyd y llwybrau heb gyffwrdd mewn unrhyw flodeuyn.