Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

iau y plentyn unig. Ymhen ychydig deuai yr ocheneidiau yn anamlach, ac o'r diwedd distawodd ei swn. Yr oedd Huw wedi anghofio ei drallod am ennyd, yr oedd cwsg wedi taenu ei aden drosto.

Yn nhy Miss Thomas daeth amser te, ond ni wnaeth Huw ei ymddangosiad wrth y bwrdd. Dechreuodd hi ddwrdio wrth y forwyn am fod plant mor ddrwg, a phenderfynodd na chai Huw ddim ond darn o fara sych pan y deuai, am ei fod wedi aros mor hwyr, ac hefyd am ei fod wedi dangos tymer mor ddrwg yn y prydnawn. Ond aeth y pryd heibio, a swper yr un modd, ond ni ddaeth Huw i’r ty. Wrth ei gweled ym tywyllu dechreuodd yr hen ferch deimlo yn anesmwyth, a danfonodd y garddwr i chwilio yr ardd i gyd a'r ffordd oddiallan, ac aeth ei hun at y llidiart bellaf i edrych oedd dim golwg ar y crwydryn bach yn dod o rywle. Aeth yr oriau heibio heb ei ddychweliad fodd bynnag.

Danfonwyd amryw o ddynion o’r pentref gerllaw i chwilio ymhob cyfeiriad, ac aeth Miss Thomas gyda lantern yn ei llaw i geisio y plentyn colledig.

Ceisiwyd ef ymhob man ond y fynwent. Feddyliodd neb am y fan honno. Yr oedd ym lle rhy anhebyg i feddu unrhyw swyn i blentyn. Wrth weled fod eu ceisiadau yn ofer dychwelodd y dynion i’w cartrefi, ac aeth Miss Thomas adref hefyd, ond nid i gysgu, yr oedd mewn gormod o fraw yn ceisio dyfalu i ba le yr aeth Huw, ac yn cyhuddo ei hun o fod yn rhy strict gydag ef.

Gan gynted ag y torrodd y dydd aeth allan drachefn. Cerddodd i lawr yng nghyfeiriad yr afon, gan feddwl weithiau ei fod wedi syrthio