Tudalen:Cerrig y Rhyd.pdf/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

i'r dwfr. Yr oedd y llwybr yn arwain gyda chlawdd y fynwent, a syrthiodd ei llygaid ar y groes wen oedd yn disgleirio yn eglur yng ngoleu tanbaid y dwyrain, ac yr oedd yn teimlo yn frawychus wrth feddwl nad oedd wedi cyflawni ei haddewid i’w chwaer, o fod yn dyner wryh ei bachgen bach. Ond beth oedd yn gorwedd yn llonydd wrth droed y groes? Rhoddodd ei chalon naid, a phrysurodd dros y gamfa oedd gerllaw, a chyn pen ychydig o eiliadau yr oedd yn plygu uwchben y crwydryn bychan. Gorweddai a’i foch yn pwyso ar ei law. Yr oedd ei wallt a’i ddillad yn dyferol o wlith, a disgleiriai y defnynnau ar ei wyneb. Cododd ei fodryb ef yn ei breichiau, a dygodd ef gartref yn cysgu o hyd.

Bu Huw yn ei wely heb symud am lawer o fisoedd mewn poen mawr ar ol hyn; a phan giliodd y poen gadawodd ef yn wan a diffrwyth. Yr oedd y gwlith oer wedi tynnu’r nerth o’i aelodau bach fel na fedrai byth redeg a chwareu mwy. Ond yr oedd y noson honno wedi creu cyfnewidiad mawr yng nghalon yr hen ferch, a llawer gwaith y teimlai y buasai yn rhoddi llawer iawn o’i chyfoeth, os nad yr oll, am gael clywed trwst Huw yn rhedeg i fyny ac i lawr y grisiau, ac am weled ôl ei draed budron ar y carped. Newidiodd Huw ei farn am ei fodryb yn y dyddiau hynny. Meddyliai ei bod yn edrych arno bron fel y byddai ei fam, yr oedd ei llais hefyd yn dynerach wrth siarad ag ef, ac meddai wrthi um diwrnod,—

“Dynes ffeind ydach chi wedi’r cwbl, modryb; ’roeddwn i’n meddwl ych bod chi’n galed ystalwm.”