Prifathro Viriamu Jones; dadleuai'n wyllt gyda Mr. Lloyd George fod pedwar cant o bob mil o'r gwragedd a'r plant yn marw yng ngwersylloedd y Transvaal; a, rhwygo'r Blaid, Ryddfrydol neu beidio, heriai Asquith a'i gyfeillion ar bwnc y rhyfel ffôl yn Ne'r Affrig. Yn y testunau llenyddol, er hynny, yr oedd ei ddiddordeb dyfnaf, a dilynai ysgrifau'r Ap ar feirdd a llenorion a llyfrau a chylchgronau ag awch. Ac, wrth gwrs, ni bu erioed mewn papur newydd nac yn unman arall, stori hafal i "Y Crwydryn," y chwysai'r Ap drosti bob wythnos gan lenwi dwy golofn ysbrydoledig â hanes rhyw dramp a grwydrai'n fympwyol i bobman y gwyddai'r awdur yn o dda amdano. Haerai Wmffra Jones nad oedd y Crwydryn yn ei lawn bwyll. "Ond dyna fo," chwanegai, "yr Ap i hun ydi o, yntê?'"
Aeth Mehefin yn Orffennaf a Gorffennaf yn Awst, ac fel y llithrai'r amser heibio, ciliodd y rhamant gyntaf. Ond yn gynnar yn Awst, cychwynnodd Dan ar ei gyfres nodedig o Frasluniau portreadau syml gan 'Edmygydd' o Robert Williams a "J.H. " a'i dad ac eraill o arweinwyr chwarelwyr Llechfaen. Ymfflamychu a wnâi'r Ap yn ei ysgrifau ar y streic, gan chwipio awdurdodau'r chwarel a'r Bradw yr yn ddidrugaredd, ond penderfynodd Dan na wnâi ond tynnu darluniau cynnil.
"Hm," meddai'r Ap pan ddarllenodd y braslun cyntaf. "Go dda, wir, Daniel, 'machgan i, darlun gwych, ond...'
"Ond?"
"Rhy dawel. Rhaid iti weiddi mewn papur newydd, codi dy lais, taro dy ddwrn ar y bwrdd. Neu 'chymer pobol ddim sylw ohonat ti."
Treuliodd Dan awr arall tros yr ysgrif, er byrred oedd hi, ond ni fedrai yn ei fyw ddilyn awgrym y Golygydd. Nid gŵr i weiddi yn ei gylch oedd Robert Williams, teimlai. Yn nhawelwch onest y dyn yr oedd ei gryfder, yn ei unplygrwydd di-sôn, yn ei ddiffuantrwydd syml. Rhoes ei bin ysgrifennu i lawr mewn anobaith.
"Mae arna' i ofn mai un go sâl am weiddi ydw' i," meddai wrth yr Ap pan ddychwelodd y Golygydd ar ôl bod "ar neges yn y dref.
"Does dim rhaid iti, Daniel, 'machgan i. Mi fûm i'n meddwl am yr ysgrif 'na pan on i allan. Ac 'ron i'n gweld y