Tudalen:Chwalfa.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

y sylw a rôi darllenydd cyffredin i bapur newydd. Deuai'r Gwyliwr yn rheolaidd i Gwynfa' cyn y streic, ond ei dad oedd yr unig un a'i darllenai'n weddol fanwl. Cip ar hanes priodas hon-a-hon neu angladd hwn-a-hwn, craffu ar y darluniau o'r gwisgoedd hardd a gynigiai John Noble am 10s. 6c.— ac yna âi Megan a'i fam ymlaen â'u gwaith wedi gweld y papur' am yr wythnos honno. Bodlonai yntau Dan, fel rheol, ar olwg frysiog tros y nodiadau llenyddol ("Llannerch y Llenor "). Ond yn awr gwyliai bob gair, a phentyrrodd mewn ychydig amser wybodaeth enfawr am fyd a betws. Gwyddai ym mh'le i brynu modrwy briodas a chael anrheg hardd yn rhad ac am ddim gyda hi a "lle o'r neilltu i'w dewis," hetiau at y gwair am ddwy geiniog yr un, te â'r 'poetry of drink' ym mhob cegaid ohono, eli anffaeledig at Gornwydydd Crawnllyd a Tharddiadau Anolygus, y feddyginiaeth orau i'w chymryd pan ddywedai'i drwyn a'i wedd a'i dafod fod Bol-rwymedd arno, pelenni cryfhaol a oedd yn Wrth fustlaidd ac yn Droeth barôl, beth bynnag a olygai hynny, a ffisig at y Gymalwst a'r Gewynwst a'r Anwydwst a phobwst arall a ormesai'r corff dynol. Yr oedd prisiau anifeiliaid, o wartheg i gywion ieir, ar flaenau'i fysedd, ac os dymunai rhywun hwylio i bellter byd, gallai Dan roi iddo'r gost ac enw'r llong a'r porthladd a'r manylion oll. Gwyddai hefyd ym mh'le yr oedd mul cryf a gweithgar ar werth, buwch ddu ganol oed ar goll, parrot â chynffon goch am chwe swllt, pwy a oedd yn barod i dalu deuddeg punt y flwyddyn i forwyn a pha ysgol a oedd eisiau athro ("cyflog: £50 y fl."). A gwnâi'r newyddion lleol (" Pryder a mwynder gwŷr Môn,"

O'r mannau wrth ddŵr Menai," "O Arfon y llon a'r lleddf," "O'r bonc a'i berw o bynciau," "O Lŷn a'i thirion lannau," "Rhyw fanion o Eifionydd," "Ym mro annwyl Meirionnydd," etc.) ef yn awdurdod ar fân ddigwyddiadau ym mhob ardal. Cyngerdd er budd cartrefi Dr. Barnardo yn Amlwch, Cyfarfod Misol yn y Sarn, eisteddfod yng Ngherrig-y-drudion, Cymanfa'r Annibynwyr ym Mhwllheli, Bwrdd yr Undeb yn Llanrwst, trafodion Cyngor Plwyf llawer man na chlywsai amdano o'r blaen, damweiniau mewn chwareli—gwyliai Dan y byd o'i gwmpas â llygaid eiddgar.

Ac wrth ddarllen y newyddion mwy cyffredinol, yr oedd mor chwyrn â'r Ap ei hun pan gondemniodd y "Church Times" Esgob Llan Daf am wasanaethu yn angladd y