Tudalen:Chwalfa.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

a phan dorrai Emrys ail damaid iddo'i hun, ni allai ymlid yr olwg farus o'i lygaid.

"Diawch, Dan, mae hon yn werth diodda' tipyn chwanag of boen er 'i mwyn hi."

"O'r. . . o'r gora', Emrys. Darn bach."

Fel y proffwydasai Ap Menai, tynnodd wyneb-ond wyneb o fwynhad digymysg. Oedd, yr oedd yr Ap yn gastiwr heb ei ail.

"A 'rwan mae'n rhaid i chi gael lle i aros yn y dre 'ma, ond oes?" meddai'r fam pan oedd y te drosodd. "Ydach chi'n 'nabod rhywun yma?"

"Nac ydw', wir."

Wyddoch chi am rywla, 'Mam?" gofynnodd Gwen.

"Wel, mi ddaru Mrs. Isaac Morris, Ship Street, sôn wrtha' i 'i bod hi'n unig iawn 'rŵan ar ôl colli'i gŵr. 'Synnwn i ddim na fasa' hi'n falch o rywun yno, er mwyn cwmni. Mae o'n dŷ bach hynod lân, mi wn i hynny—fel pin mewn papur bob amsar."

"Dynas sy'n dŵad i'r capal acw ydi Mrs. Morris," eglurodd Emrys. Roedd 'i gwr hi'n flaenor, ond fe fu farw'n sydyn pan on i gartra'r Pasg."

"Rhedwch i fyny yno, 'Mam, rhag ofn," awgrymodd Gwen.

Aeth Mrs. Richards ymaith ar unwaith, a dychwelodd cyn hir â'r newydd y câi Dan gartref cysurus yn nhŷ Mrs. Morris am naw swllt yr wythnos. Diolchodd yn gynnes iddi am ei thrafferth, ac yna, a'i gyfaill Emrys yn ei ddanfon, i ffwrdd ag ef i ddal y trên.

Diar, yr ydw' i'n falch dy fod di'n dwad i helpu f'ewyrth am yr haf 'ma, fachgan," meddai Emrys cyn i'r trên gychwyn. "Mae o'n gorweithio'n enbyd, wsti, yn 'i ladd 'i hun wrth sgwennu'r rhan fwyaf o'r papur 'na 'i hun. Wel, mi gei ddigon i'w wneud, mae hynny'n siŵr."

Ac yr oedd digon i'w wneud. Cyfieithu rhai o'r areithiau pwysicaf a draddodid yn y Senedd ("Synnwyr—neu ddim—o'r Senedd"); cywiro proflenni tra darllenai un o'r prentisiaid y llawysgrif yn uchel; ailwampio, yn aml ailysgrifennu'n llwyr, nodiadau gohebwyr fel Ben Lloyd; rhuthro allan i ryw briodas neu angladd neu i'r Llys yng Nghaer Fenai—ni châi Dan lawer o amser i segura. Ac fel yr ymdaflai i'w waith yn yr wythnos gyntaf honno, sylweddolodd mor arwynebol oedd