"Ne' mi fydd hi'n helynt gynddeiriog yma. O diar, 'ddylwn i ddim bod wedi deud wrthat ti. Wnei di ddim sôn gair, na wnei?"
"Na wna'. "
Yr oedd yn ddrwg gan Fegan dros y dyn bach diniwed hwn-" Gruffydd Letitia" i bawb yn y chwarel. Ar yr ychydig adegau pan gawsai ei gwmni ar ei ben ei hun, daethai'n hoff ohono a bu yntau'n garedig iawn wrthi, ond cyn gynted ag y deuai ei wraig i'r golwg, gwisgai Gruffydd Davies fwgwd llymder, gan gymryd arno fod ei ferch yng nghyfraith islaw sylw. Chwarelwr cyffredin, diymhongar, fu ef am flynyddoedd er holl ymdrechion Letitia i'w wneud yn Stiward Bach. Llusgwyd ef ganddi o Siloh i'r Eglwys, er mwyn ei ddwyn yn nes at rai o'r prif Stiwardiaid, ac eisteddai yno bob Sul fel hogyn anfoddog yn yr ysgol yn dyheu am chwarae triwant. Ond o'r diwedd, wedi blynyddoedd o ddyfalwch ac amynedd, llwyddodd Letitia yn ei chais, a gwnaed ei gŵr yn swyddog. Dathlwyd yr amgylchiad drwy symud i fyny i Albert Terrace, lle trigai amryw o fân stiwardiaid a marcwyr cerrig. "Tale Tellarce" oedd enw answyddogol y stryd honno, ac er y teimlai Gruffydd Davies yn bur anhapus yno, yr oedd ei wraig ar ben ei digon. Tua'r un pryd, etifeddodd Letitia rai cannoedd ar ôl hen ewythr iddi, ac aeth yn ddynes fawreddog. Ymwthiai i gwmni gwragedd a ystyriai hi'n bwysig, a lle bynnag yr oedd gobaith bod ar bwyllgor neu lwyfan, yno y ceid Letitia Davies. Rhwng popeth yr oedd hi'n wraig brysur.
Ond swyddog sâl a wnaeth ei gŵr. Gwrandawai'n astud ar gwynion rhai o'i hen gyfeillion, ac oedai'n aml am sgwrs â hwn-a-hwn, yn lle'i orchymyn yn swta i fynd ymlaen â'i waith. A phan dorrodd yr helynt yn y chwarel, â'r dynion, yn ddistaw bach, yr oedd holl gydymdeimlad Gruffydd Davies. Ac yn awr yr oedd yn ddi-waith. Rhyw bythefnos cyn i'r Bradwyr ddechrau, galwyd y swyddogion, yn Stiwardiaid a Chontractwyr, yn ôl i'r chwarel, ond ni ddaeth gwŷs i 2, Albert Terrace. Gruffydd Davies oedd un o'r tri Stiward na welid mo'u hangen o dan y drefn newydd. Pam? Yr oedd y peth yn ddryswch mawr i Letitia, a chyhuddodd ei gŵr drocon o ddangos ei gydymdeimlad â'r gweithwyr. Y gwir oedd mai hi, ac nid ef, a ddylai fod yn Stiward Bach yn y chwarel.