Tudalen:Chwalfa.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hi mewn rhyw ffordd, âi Letitia i'w gwely i dawelu curiadau gwyllt ei chalon. Aethai pum mlynedd ar hugain heibio er pan gyhoeddodd Doctor Roberts fod ei chalon hi braidd yn wan, a phob hyn a hyn, wrth ewyllys ei pherchennog ac ar adegau cyfleus, ceisiai'r galon eithriadol honno, fel aderyn mewn caets, ddianc o'i charchar. A chan na allai Letitia wneud hebddi, anadlai'n wyllt, gan riddfan a thuchan a chochi yn ei hwyneb wrth stryffaglio i'w chadw yn ei lle. A churai calon pawb arall yn y tŷ yn wylltach fyth.

Un o'r cyffroadau hyn a gadwodd Megan yn Albert Terrace y prynhawn Sul hwnnw. Digwyddodd yn gyfleus i Letitia ar ôl cinio. Proffwydasai droeon yn ystod y pythefnos cynt y deuai "attack" cyn hir, ond llwyddodd amryw o bethau-ei haml bwyllgorau yn yr Eglwys ac yn yr ardal, yn arbennig-i'w gadw ymaith. Ond y prynhawn hwnnw deallodd y galon y gallai hi gael tipyn o sbri heb ymyrryd â phrysurdeb pwysig ei pherchennog, a manteisiodd ar y cyfle. Ond, yn annisgwyl i Letitia, chwaraeodd

Ffawd dric â hi.

Dechreuodd y galon guro'n gyflymach yn y bore pan wrthododd Gruffydd Davies fynd hefo'i wraig i'r Eglwys. Ei esgus oedd bod y cryd cymalau yn ei ben-glin yn boenus iawn, ond ni chredai hi mo hynny. Ac yn wir, yr oedd y pen-glin yn well o lawer ar ôl i Letitia ymadael.

"Pam ydach chi'n aros gartra' bora 'ma?" gofynnodd Megan iddo.

Meddwl y basa'n well imi orffwys yr hen ben-glin 'ma... Pam wyt ti'n gwenu?

"Dim byd."

"'Dwyt ti ddim yn . . . yn credu'r stori?"

"Wel..."

"Wyt ti'n meddwl bod Letitia—Mrs. Davies—yn... yn...?" Yr oedd ofn yn ei lygaid.

"Yn beth?"

"Yn . . . yn ama'?"

"Felly, esgus ydi'r pen-glin?"

"Wel, i ddeud y gwir-ond dim gair wrth neb, cofia—ia, esgus ydi o. Ond paid â chymryd arnat wrth neb, cofia, ne*

"Edrychodd yn ymbilgar arni.

"Ne' beth?"