Tudalen:Chwalfa.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Mae Ifor wedi gofyn cymwynas fach gynnoch chi. Y peth lleia' fedrwch chi wneud ydi bod yn ddigon sifil i'w atab o."

"Nid yn amal y bydda' i'n gofyn ffafr," ebe Ifor, fel un a gâi ddirfawr gam. "A 'rwan y cwbwl ydw' i am i chi wneud ydi rhoi negas i Price-Humphreys. 'Dydi hynny ddim llawar, ydi o?"

"Dim llawar i ti, Ifor," meddai'i dad, a'i lais yn crynu tipyn.

A be' ydach chi'n feddwl wrth hyn'na?" gofynnodd Ifor, yn dechrau colli'i dymer.

Nid atebodd Gruffydd Davies, dim ond casglu ychwaneg o lestri oddi ar y bwrdd.

"Pam nad atebwch chi'r hogyn?" gwaeddodd Letitia. Ni ddywedodd ei gŵr air, ond yr oedd yn amlwg fod rhyw gyffro mawr yn ei feddwl, oherwydd gollyngodd fforc yn ffwndrus o'i law.

"'Ydach chi wedi mynd yn fud ac yn fyddar yn sydyn? " holodd ei wraig.

"Y cricmala' wedi dringo i'w dafod a'i glustia' fo, 'Mam," sylwodd Ifor, gan chwythu allan gwmwl haerllug o fwg.

Rhoes y dyn bach y llestri i lawr yn araf a gofalus ar y bwrdd. Yna ymsythodd, gan wthio'i ben ymlaen ac edrych i fyw llygaid ei fab. Ymddangosai fel ymdrochwr ofnus ar lan afon, ar fin torri'r ias drwy blymio'n rhyfygus i'r dwfn.

'Dydw' i ddim yn mynd i gario newyddion am un Bradwr i neb," meddai a'i lais yn gryg.

"Bradwr!" Eisteddodd Letitia i fyny fel bollt, gan anghofio'i chalon. "Bradwr! 'Ydi iaith Tan-y-bryn wedi dwad i'r tŷ yma?"

"Rhowch chi ba enw fynnoch chi i'r iaith, Letitia," meddai Gruffydd Davies yn dawel. " Y gwir ydi'r gwir, beth bynnag y gelwch chi o."

"O'n wir," meddai Ifor, "mae'n dda inni gael dallt ein gilydd, ond ydi?" Yna troes at ei fam. "Rydan ni wedi bod yn dyfalu pam na alwyd y Stiward Bach 'ma yn ôl i'r chwaral, ond ydan? Mae'r rheswm mor glir â'r dydd 'rwan. Yn ddistaw bach, mae o'n un o'r dynion cadarn, egwyddorol hynny, sy'n meddwl mai nhw ydi halan y ddaear! Fel Edward Ifans, fy nhad yng nghyfraith."

Anelai'r frawddeg olaf at Fegan, a ddaethai i mewn i glirio gweddill y llestri o'r bwrdd.