Tudalen:Chwalfa.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon




✱ Yr Ail Flwyddyn ✱


PENNOD I

DALIAI'R ystorm i lacio, fel petai'r lleuad ifanc, a gipedrychai drwy ambell ffenestr niwlog rhwng y cymylau, yn bwrw swyn ar y gwynt a thros gynddaredd y môr. Aethai rhyw bymtheng mis heibio er y prynhawn Sadwrn hwnnw o Fehefin pan grwydrasai Llew a Gwyn i'r gwaith copr. Yn awr, ar y nos hon yn niwedd Medi'r flwyddyn wedyn, pwysai Llew yn erbyn rheilen y Snowden Eagle, gan syllu'n ddigalen i lawr ar derfysg y tonnau. Yr oedd tros chwe mil o filltiroedd rhyngddo a'i gartref.

'Faint oedd er pan adawsai Aber Heli, hefyd? Deufis a diwrnod, a thrwy'r saith wythnos olaf, ar ôl hwylio o Hamburg, ni welsai fawr ddim ond môr, môr, môr. Llithrasai'r amser heibio fel breuddwyd, ac yng nghanol newydd-deb byd a bywyd morwr, ni lethwyd ef gan atgofion am ei gartref. Ond heno . . . Yr oedd hi dipyn wedi un ar ddeg a'r wyliadwriaeth gyntaf yn tynnu tua'i therfyn. Clywai ei ddychymyg Gwyn yn myngial yn ei gwsg, tramp araf esgidiau hoelionmawr rhywun ar y ffordd tu allan, gwich y nawfed gris o dan droed ei fam, ar ei ffordd i'w gwely, sŵn ei dad yn curo'i bibell ar fin pentan y gegin, a draw ymhell gyfarthiad Pero, ci Tyddyn Isa'. Yma, berw'r môr oddi tano, lluwch yr ewyn yn arian byw yng ngolau'r lloer, cymylau drylliog ar wib uwchben, chwiban a chlec y gwynt yn yr hwyliau, griddfan a grwgnach yr hwylbrenni a'r rhaffau, ac . . . ac unigrwydd fel pabell o'i amgylch.

Deuent i dir yn fuan, meddai'r morwyr, ac am Rio a'i rhyfeddodau yr oedd sgwrs y ffo'c'sl yn awr. Yno, is hanner cylch o fynyddoedd llyfn, yr oedd y porthladd gorau a harddaf yn y byd, ac yn nirgelwch rhamantus y ddinas deuai rhyw newydd wyrth o hyd i'r golau. Yno yr oedd hud a lledrith, heulwen ar dai a oedd yn wyn fel ifori ac ar fôr o