Tudalen:Chwalfa.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

sidan gloyw, pob iaith, pob lliw, pob melys gainc, tegwch merch, hyfrydwch gwin. Breuddwyd o le oedd Rio.

Byddent yno am wythnos neu ddwy, ac yna . . . Yna? Holasai Llew y morwyr droeon, ond ni wyddent ac ni phoenent hwy. A droent yn ôl tua Chymru gofynnodd iddynt. Efallai, ac efallai yr hwylient i India'r Gorllewin. Neu i Ddeheudir Affrig neu rownd yr Horn i Valparaiso. Efallai y byddent i ffwrdd am dair neu bedair blynedd. Pa ots? Ý ddwy flynedd gyntaf oedd y gwaethaf!

"Wnei di ddim llongwr os wyt ti'n mynd i hiraethu am fwytha', wsti," oedd geiriau'r hen Simon Roberts, y Bosun. “Pan es i i'r môr gynta', yr on i i ffwrdd am wyth mlynadd. Deuddag oed on i'n cychwyn o'r Borth 'cw, ond yr oedd gin' i fwstas a locsyn pan ddois i yn f'ôl. Oedd, 'nen' Duwc, a hen wraig fy mam hefo procar rownd y tŷ ar f'ôl i nes baswn i'n addo cael gwarad â nhw. 'Ddoi di ddim i fan'ma yn edrach fel mwnci, mi 'ffeia' di,' medda' hi."

Chwarddodd Llew. Meddwl am y blew ar wedd ei mab yr oedd y fam, heb sylweddoli na fu wyneb tebycach i un mwnci gan fachgen erioed. A phrin y gwyddai Simon mai'r "Mwnci " oedd ei las-enw ar bob llong.

"'Dydw' i ddim yn meddwl 'i bod hi'n credu mai fi oeddwn i, wsti," chwanegodd, " nes iddi gael gweld y graith ges i ar fy ngên wrth gwffio hefo Twm Clipar yn yr ysgol ers talwm." "Ond chwarelwr ydw' i, Seimon, nid llongwr, ac os ydi'r streic drosodd yn ôl i'r chwaral yr a' i."

"'Rwyt ti'n gwneud yn gall, 'ngwas i. Wyt, 'nen' Duwc." Poerodd Simon sug baco i'r môr mewn doethineb dwys. "Mi faswn i wedi angori ar y lan ddwsina' o weithia' oni bai am yr hen goesa' y felltith 'ma." Gwenodd Llew. Yr oedd coesau Simon Roberts yn destun digrifwch mawr ar y bwrdd.

Tri mis unwaith y bûm i hefo 'Dwalad' fy mrawd yn Sir Fôn, ac yr on i'n dwad yn rêl ffarmwr, medda' fo, ond yr oedd yr hen goesa' goblyn 'ma isio cychwyn, fachgan, a 'fedrwn i wneud dim hefo nhw. 'Ron i'n mynd â nhw bron bob gyda'r nos i lan y môr ryw filltir i ffwrdd ac yn 'u rhoi nhw mewn cwch iddyn nhw gael teimlo'r dŵr yn siglo o danyn' nhw. 'Roeddan' nhw wrth 'u bodd yno, ond y drwg oedd 'u bod nhw'n hiraethu drwy'r dydd wedyn am yr hwyr a'r cwch bach. Ac un noson 'doedd y cwch ddim yno. Na'r hwyr wedyn. Na'r un ar ôl hynny. 'Roeddan' nhw'n torri 'u calon yn