"Y Twm Cwcw, y llechgi diawl," meddai Huw, gan godi cerrig metlin oddi ar y ffordd.
"'Rŵan, Huw, mynd adra'n dawal pia' hi. Peidio â chymryd sylw o Dwm Parri a'i siort ydi'r peth gora'.
Ond y munud nesaf yr oedd y cerrig a daflai Huw yn malurio ffenestri'r Bradwr yn deilchion. Un, dwy, tair, pedair carreg, ac yna, "Tyd, ras am dy fywyd, Llew."
Clywent sŵn traed a lleisiau plismyn ar waelod y stryd ac agorai drysau'n frysiog ar bob llaw. Gwibiodd y ddau i fyny Tan-y-bryn, gan anelu am y coed wrth ymyl Annedd Uchel. Ond rhedwr sâl oedd Huw, a chlywai Llew draed a lleisiau'r dilynwyr yn ennill arnynt.
"I ardd yr hen Ishmael Jones, Huw," sibrydodd.
Tros y wal i'r ardd â hwy. Gan fod yr hen Ishmael mor fyddar ac yn byw ar ei ben ei hun, nid oedd perygl i neb yn y tŷ uchaf eu clywed. Ymhen ennyd aeth y plismyn ac eraill heibio ar frys gwyllt.
"Mynd i'r coed wnân' nhw, 'gei di weld, Llew," sibrydodd Huw.
"Sh! Maen' nhw wedi aros."
Clywsant yr erlidwyr yn dychwelyd yn araf, a chlustfeiniodd y ddau'n bryderus.
"'Ydach chi'n siŵr?" Llais y Sarsiant.
"Ydw'. 'Ddaru neb fy mhasio i, yr ydw' i'n sicir o hynny," atebodd Bradwr o'r enw Bertie Lloyd a ddigwyddai fod ar ei ffordd i lawr Tan-y-bryn.
"Hm. Jones a Stephens?"
"Ia, Sergeant?"
"Arhoswch chi yma. Davies a Humphreys, ewch chitha' i gefn y tai. Sefwch chitha', Williams, dipyn yn is i lawr. Maen' nhw'n cuddio yn un o'r gerddi 'ma. Hughes?"
"Ia, Sergeant?"
"Rhedwch i lawr i'r stesion a dowch â lampa' yn ôl hefo chi.”
"Reit, Sergeant."
Gwelodd y Sarsiant olau yn llofft Ishmael Jones a brysiodd i guro ar y drws. Curodd drachefn, yn awdurdodol o uchel, a daeth yr hen frawd, a oedd ar fin mynd i'w wely, i lawr â channwyll yn ei law.
"'Glywsoch chi sŵn rhai o gwmpas y tŷ 'ma?" gofynnodd y Sarsiant.