Tudalen:Chwalfa.djvu/117

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Y?"

"'Glywsoch chi sŵn rhai'n dringo'r wal 'na?"

"'Fala'? 'Ydyn' nhw wrthi eto heno, y cnafon bach? " Yna chwarddodd yn gyfrwys. "He, 'chân' nhw ddim ond 'u siomi. Yr ydw' i wedi tynnu pob afal, sarjant. Ond diolch i chi yr un fath, yntê? Ac i'r plisman 'ma sy hefo chi, yntê?" "Rhai sy wedi bod yn torri ffenestri," gwaeddodd y Sarsiant. "A ninna' ar 'u hola' nhw. Maen' nhw'n cuddio yn un o'r gerddi 'ma."

"Ffenestri? Fy rhai i?"

"Naci. I lawr yng ngwaelod y stryd 'ma."

"Y?"

"Yng ngwaelod y stryd 'ma."

"O. Tŷ pwy y tro yma? He, un o'r Bradwyr eto, ia? " Troes y Sarsiant ymaith mewn dirmyg ac aeth Ishmael Jones yn ei ôl i'r llofft, gan chwerthin yn dawel bob cam i fyny'r grisiau.

"Mi driwn ni sleifio i ffwrdd 'rwan, Huw," sibrydodd Llew, cyn i'r plisman 'na ddŵad â'r lampa'. Trwy'r cefn fydd y gora'.

Griddfannodd dôr Ishmael Jones wrth ei hagor, a safodd y ddau mewn braw gan ddal eu hanadl. Ond chwythai awel drwy'r goeden afalau uwchben a chuddiodd sŵn y ddôr yn siffrwd y dail. Gwyrodd Llew ymlaen i edrych heibio i'r mur a gwelai ffurf plisman yn y lôn gul, ryw ugain llath i ffwrdd, ac un arall, yn nes, yng ngheg y lon.

"Rydan ni wedi'n cornelu, Huw," sibrydodd. "Mae 'na un i lawr ar y chwith ac un arall yn ymyl yng ngheg yr entri."

Ymbalfalodd Huw nes dod o hyd i garreg.

"Be' wyt ti'n mynd i'w wneud, was?" gofynnodd Llew. "Taflu'r garrag 'ma i un o'r gerddi yn ymyl y plisman 'na. I dynnu'i sylw fo."

Aeth y garreg, fel y gobeithiai Huw, i ganol coeden, a thynnodd afal neu ddau i lawr gyda hi. Clywsant y plisman ar y chwith yn chwibanu'n isel ar y llall.

"Pwysa'n ôl yn erbyn y wal, Llew."

Brysiodd yr ail blisman at y llall, a sleifiodd y ddau fachgen drwy geg y lôn ac i'r stryd a redai'n gyfochrog â Than-y-bryn. Fel y cyrhaeddent y brif heol gwelent amryw o blis-