myn, a lampau ganddynt, yn troi i fyny Tan-y-bryn, rhai ar hyd y ffordd, rhai drwy'r lôn gul yn ei chefn.
"Maen' nhw am wneud yn saff ohono' ni, myn diain," sylwodd Huw.
"Ydyn', ar ôl y malu ffenestri sy wedi bod yma'n ddiweddar wel'di. Sut goblyn yr awn ni adra', dywad?"
"Dydw' i ddim am fynd adra'," meddai Huw, a drigai ryw bedwar tŷ yn uwch na Gwynfa." "'Dydi'r bôi yma ddim am dreulio noson yn jêl."
"Be' wyt ti am wneud, 'ta'?"
Mynd yn f'ôl i'r llong. Mi fasa'n rhaid imi gychwyn i Aber Heli ben bora p'run bynnag."
"Mi ddo' i hefo chdi, Huw."
"Y?"
"Mi ddo'i hefo chdi."
"Ond 'does 'na ddim lle ar y llong iti, cofia."
"Efalla' y medra' i gael gwaith ar un arall. 'Fydda' i ddim gwaeth â thrio. Yr ydw' i wedi 'laru ar fod adra'n segur."
"Ond . . . "
"Tyd yn dy flaen."
Cyrhaeddodd y ddau Aber Heli rhwng tri a phedwar yn y bore a buont yn loetran o gwmpas y pentref a'r Cei am oriau. Yna aethant i lawr i'r llong y gweithiai Huw arni a chafodd y ddau damaid o frecwast yn y gali. Crwydrodd Llew o long i long wedyn i grefu am le, ond "Na " oedd yr ateb ym mhob un. Eisteddodd yn siomedig ar y Cei yn gwylio dynion yn llwytho sgwner dri-hwylbren a'r enw Snowdon Eagle yn fawr ar ei hochr ac ar ei lluman.
"I b'le mae hi'n mynd?" gofynnodd i'r hen forwr a ymunodd ag ef. Yr oedd ei lygaid bychain y rhai glasaf a welsai Llew erioed.
"I'r Afon Elbe i ddechra', ac wedyn . . ." Cododd ei ysgwyddau a thaflodd ei ben i fyny: ni wyddai ac ni faliai ef. Mi glywis i ryw si ein bod ni'n debyg o gael ein gyrru i Rio, ond 'wn i ddim yn iawn."
"Lle mae fan'no?"
"Rio?" Edrychodd yr hen forwr yn ddirmygus ar Llew. Yr oedd anwybodaeth y bachgen yn anhygoel. Brazil."