Tudalen:Chwalfa.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ni wyddai Llew yn iawn ymh'le yr oedd Brazil chwaith, ond ni feiddiodd gyffesu hynny.

"'Ydi hi'n llawn?"

Mi fydd erbyn heno. Dim ond rhyw ddeugian tunnall gymer hi eto. Maen' nhw wedi bod yn llwytho er dydd Llun." Yr oedd hi'n ddydd Gwener.

Na, nid hynny on i'n feddwl. 'Ydi'r criw yn llawn?" "Ydi, pawb ond yr hogyn oedd yn helpu'r cwc yn y giali. Mi welis i 'i fam o 'rwan. Mae hi am 'i gadw fo gartra', medda' hi, a'i yrru o i'r ysgol. A diolch am hynny. 'Roedd y cena' bach yn taflu'r dail te i ffwrdd bob dydd. 'Dydi'r dail ddim i fod i gael 'u taflu i ffwrdd. Maen' nhw i fod yn y boilar am ddyddia' nes bydd rhyw flas ar y te yn lle 'i fod o fel 'panad hen ferch."

Yr oedd Llew yn glustiau i gyd: yr hogyn yn gadael? "'Ydach chi . . . 'ydach chi isio hogyn yn 'i le fo?"

'Ydan, mae'n debyg. Ond 'falla' fod gan y Ciaptan rywun mewn golwg. 'Dydi o ddim yn gwbod eto fod y llall am roi'r gora' i'r môr."

"'Oes 'na . . . 'oes 'na ryw siawns i mi gael 'i le fo?"

"Heb waith wyt ti?"

"Ia. Mae'r chwaral ar streic ers yn agos i ddwy flynadd ac 'rydw' i wedi 'laru ar gicio fy sodla' yn Llechfaen acw."

"Hm." Edrychodd Simon Roberts, y Bosun, yn hir a beirniadol arno. 'Wyt ti'n cnoi baco?"

"Nac ydw'. "Hm, 'wnei di ddim Ilongwr heb gnoi baco wsti." Ysgydwodd ei ben yn ddwys, a phoerodd sug melyn i'r dŵr dan ymyl y Cei.

"Ond . . . ond mi fydda' i'n smocio weithia', ar y slei."

"Fyddi di'n rhegi?"

"Na fydda'," atebodd Llew yn rhinweddol.

"Hm, 'wnei di ddim llongwr, mae arna' i ofn," sylwodd y tynnwr-coes yn drist.

"Hynny ydi, mi fedra' i regi, ond . . . ond . . ." Ni wyddai Llew yn iawn sut i egluro.

"'Fyddi di'n yfad rym?" "Na . . . na fydda'." Ond gwelodd y pefriad yn llygaid yr hen forwr, a chwanegodd, "Mi faswn i'n rhoi fy siâr i chi." "Hy, sbia arni hi," meddai Simon Roberts, gan nodio tua'r stemar fechan a fygai gerllaw. "Ac maen nhw'n galw'u