Tudalen:Chwalfa.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

hunain yn llongwyr! A'r twb lludw acw yn llong! Y cwt glo!" Poerodd eto i'r dŵr oddi tanynt.

"Ar longa' hwylia' yr ydach chi wedi arfar?"

'"Ia. 'Rois i mo'm troed yn un o'r tacla' acw 'rioed. Un o'r dynion o haearn ar longa' pren fûm i drwy f'oes, dynion pren ar long haearn ydi'r rhai acw. Hy!"

"Ers faint ydach chi ar y môr?"

"Mi fydd hi'n drigian mlynadd flwyddyn i 'rwan, fachgan." "Diar annwl!"

"Bydd, 'nen' Duwc. Deuddag oed on i pan hwylis i gynta' o'r Borth 'cw. 'Faint wyt ti?"

"Pedair ar ddeg, mynd yn bymtheg."

"'Rwyt ti'n hogyn mawr am dy oed, fachgan, wyt, wir. Hm, os nad oes gan Ciaptan Huws rywun mewn golwg, mi wnaet yn iawn. Hynny ydi, os wyt ti'n barod i fod yn handi ar y bwrdd. Helpu'r cwc yr oedd yr hogyn arall dysgu sut i ferwi dŵr hallt heb 'i losgi o-ac 'roedd o'n meddwl 'i fod o'n ennill 'i chweugian y mis am ddim ond hynny. Wel, yr ysgol ydi'i le fo. Siwgwr candi 'i fam, wsti, ac i ddeud y gwir, yr on i'n falch gynddeir' pan glywis i 'i bod hi am 'i gadw fo gartra'. 'Doeddwn i ddim yn licio'r hogyn yntôl, ac mi ddeudis i hynny wrth y Ciaptan droeon. Yn y môr, nid ar y môr, yr oedd 'i le fo. Ia, 'nen' Duwc." A phwysleisiodd Simon Roberts y datganiad drwy anelu poeryn dirmygus at bryfyn a nofiai ar y dŵr oddi tano.

"Pa bryd y bydd y Captan yma?" gofynnodd Llew. '

"Rydw' i'n 'i ddisgwl o unrhyw funud."

"'Wnewch chi . . . 'wnewch chi siarad hefo fo trosta' i?" "Gwna'. 'Wyt ti'n barod i hwylio bora fory?

"Ydw', heno nesa' os bydd isio."

"Wel, os llwyddwn ni, mi fyddi'n lwcus i gael ciaptan fel Ciaptan Huws. Os oes rhywun yn dallt ac yn caru'i long, mae o." Chwarddodd Simon Roberts, gan fwynhau rhyw ddigrifwch mawr.

Pam ydach chi'n chwerthin?"

"Cofio yr on i am yr hen Giaptan Humphreys ar y Maid ers talwm. Y Maid of Cambria, y llong gynta' y bûm i arni. Un pnawn Sul, a finna'n sefyll ar y dec, dyma'r Ciaptan yn cerddad heibio'n ara' deg, fel 'tasa' fo am ddeud rhwbath wrtha' i. Fe droes yn 'i ôl mewn munud ac, wedi gweld nad oedd neb yn gwyliad, dyma fo'n gwthio rhwbath mewn papur