Tudalen:Chwalfa.djvu/124

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

fordaith, a rhoes yr hen forwr ychydig sylltau ar law trosto, gan addo y talai Llew y gweddill pan ddychwelai ar ddiwedd y "feiej."

"A 'rwan dos adra' i grio am wddw dy fam," meddai wrth ffarwelio ag ef. "Ond cofia ddŵad â thicyn gwely hefo chdi 'fory. Mi gei ddigon o wellt ar y llong i'w lenwi fo."

Bore trannoeth, wedi dwyawr o "futlo "drwy gludo bwyd a dŵr glân mewn cwch o'r lan i'r llong, a oedd erbyn hyn allan yn yr afon, gwyliai Llew y glannau a'r pentrefi'n llithro ymaith, a chyn hir nid oedd bryniau a mynyddoedd Arfon yn ddim ond llin-gerfluniau annelwig yn erbyn nef y gorwel. Buan, ag awel ysgafn o'i hôl, yr hwyliai'r Snowdon Eagle drwy'r môr agored, a mynegodd ei llawenydd drwy ddawnsio ar y tonnau. Ond ni ddawnsiodd Llew. Ymlusgodd i'w wâl a'i wyneb yn wyrdd, ac yno y bu drwy'r dydd cyntaf hwnnw heb ddiddordeb mewn neb na dim.

Hamburg; dadlwytho'r llechi; llwytho offer tir, tri o'r criw yn gadael pan ddeallasant i sicrwydd mai ar led' ac nid yn ôl i Gymru yr hwyliai'r llong; Ffrancwr bychan, bywiog, o'r enw Pierre ac Almaenwr araf, sarrug, o'r enw Johann "Ioan" i bawb ar unwaith—a Norwyad tal, breuddwydiol, o bryd golau, o'r enw Olsen, yn cymryd eu lle; yna o'r Elbe tua'r Gorllewin pell. Cerddai Llew yn dalog hyd y bwrdd, yn forwr hynod brofiadol bellach, ond fel y croesent Fae Biscay ymgiliodd eto i'w feudwyaeth drist, a'r tro hwn ni wenodd am ddau ddiwrnod er i Simon Roberts geisio bod yn gynddeir' o ddigrif. Haerai'n ddwys mai ar dir ac nid ar fôr yr oedd ei le ef, ond pan wellhaodd, yr oedd wrth ei fodd yng nghwmni'r criw ac yng nghanol ei orchwylion ar y llong. "Yr hogyn gora' welis i 'rioed ar ddec, Ciaptan," oedd barn y Bosun fel yr ymdaflai Llew i'w waith. Buan y gallai ddringo'r rigin fel mwnci, a dysgodd ei ddwylo adnabod y rhaffau yn y nos, wrth eu teimlo'n unig. Ac wedi dringo, teimlai fel petai'n hedfan ar adanedd y gwynt a rhyddid a llawenydd holl awelon nef yn hyfrydwch ym mhob cyhyr o'i gorff. Yn y nos, is tragwyddoldeb pell y sêr, nid Llew Ifans o Lechfaen ydoedd i fyny yno ar y rhaffau, ond rhyw ysbryd ifanc, hoyw, a oedd tu hwnt i ffiniau lle ac amser, yn rhan o eangderau nef a môr.

"Ymlaen i'r "Forties," gan ofni gwyntoedd croesion a thonnau fel mynyddoedd, ond yno cawsant for tawel ac awyr