Tudalen:Chwalfa.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

las a gwibiai'r llong fel hydd o flaen y gwynt gogledd-ddwyreiniol. "Y tywydd gora' ges i 'rioed yn y Ffortis, fachgan," meddai Simon Roberts. "Mi fyddwn yn y Tropics mewn chwinciad os deil y gwynt 'ma."

Ond yn fuan ar ôl iddynt gyrraedd y Trofannau, ciliodd y gwynt yn sydyn un canol nos gan adael y llong i rolio'n ddigymorth am ddyddiau mewn llain o "lonyddwch," a'i hwyliau mawrion wedi'u tynnu i lawr a'r rhai bychain wedi'u plygu. "Llonyddwch," meddai Llew a phawb arall rhwng eu dannedd bob dydd wrth gropian o raff i raff tros boethder annioddefol y dec a phob nos wrth geisio dringo fel gwŷr meddwon i'w crog-welyau, a'u llygaid, wedi gwenfflam ddidostur yr haul a gloywder ffyrnig y môr, yn rhy boenus i'w hagor unwaith y caeent hwy. Llew, ar y dog-watch" y bumed hwyrnos, oedd y cyntaf i deimlo'r awel ar ei ruddiau. Gwlychodd ei wefusau llosg i weiddi ei lawenydd, a chan anwybyddu pob gorchymyn i ymlusgo'n llechwraidd hyd y bwrdd, rhuthrodd mewn gorfoledd at gaban y Mêt. Mentrodd y Ffrancwr Pierre i fyny'r rhaffau ar unwaith, ac mewn pryder mawr y gwyliodd y lleill ef yn siglo'n rhyfygus uwchben a'r hwylbren a'r rigin yn ceisio 'i ysgwyd ymaith a'i daflu'n ddiarbed yn ôl i'r dec. Ond daliodd Pierre ei afael, a phob cyfle a gâi llithrodd gam lladradaidd yn uwch. Llwyddodd i agor rhai o'r mân hwyliau, a thorrodd y llong lwybr araf ond sicr drwy derfysg y môr. Teimlai'r morwyr fel carcharorion wedi'u rhyddhau yn annisgwyl, a gorchmynnodd y Capten i'r cogydd a Llew, a'i cynorthwyai, ddathlu'r amgylchiad drwy baratoi'r cinio gorau a fedrent i bawb y noson honno. Ac, wedi dyddiau o cracker-hash" a dandy-funk," dirgelion a lunid drwy falu bisgedi a chig yn fân a'u huno wedyn mewn esgus o bastai, yr oedd blas anghyffredin ar y wledd. Rhannwyd iddynt hefyd ddogn o rym, ac yna cliriodd Simon Roberts ei wddf yn bur bregethwrol a chododd i gynnig eu bod yn yfed iechyd Pierre a Llew—mewn diferyn ychwanegol o'r ddiod. Cydsyniodd Capten Huws gyda gwên, a theimlai Llew, er na wnaethai ddim ond teimlo'r awel ar ei wyneb, yn dipyn o wron yn eu plith wedyn.

O'r llonyddwch" i'r "Doldrums" a'u cymysgedd o heulwen a storm, o awyr las a tharanau, o dywyllwch dudew a mellt a rwygai'r llygaid bron, o awel a chorwynt, o addfwynder a llid, a phob gwyliadwriaeth ar flaenau'i thraed yn barod