iodd yr hwylbren blaen fel hesgen yn fuan wedyn a chwyrlïwyd ef a'i raffau i'r môr; clymid wrth yr olwyn bwy bynnag a ofalai amdani; sugnwyd un o'r hatsus yn gyfan o'i le yn y prynhawn a chludodd y gwynt ef fel cerpyn drwy'r awyr; tynnai fflangellau'r ewyn waed o gefn llaw ac wyneb; ymwthiai rhywun yr oedd yn rhaid iddo fod ar y dec drwy fur solet o wynt, gan ddal ei anadl, a'i lygaid a'i safn ynghau; ac yn y ffo'c'sl a'r cabanau gorweddai popeth hyd y llawr yn bendramwnwgl, yn llanastr a dywalltai meddwdod y llong o fur i fur bob ennyd.
Ond yn awr, ychydig wedi un ar ddeg, lleddfasai rhu byddarol y gwynt a thaflai'r lleuad ifanc swyn ar ryfyg y tonnau.
"Wel, 'ngwas i?"
"O, hylô, Seimon Roberts." Ai'r hen forwr am dro a mygyn hyd y dec bob nos cyn troi i'w wely, gan chwilio am rywun i glebran ag ef.
"'Synnwn i ddim na fyddwn ni yng ngolwg y Shwgar Lôff cyn nos 'fory os deil y gwynt 'ma."
"Y Shwgar Loff?"
"Y mynydd wrth geg bae Rio." Yna canodd, ond â mwy o deimlad nag o fiwsig yn ei lais:
"O, fel y mae'n dda gen' i Rio!
Hen le bendigedig yw Rio.
Chwiliwch y byd drwyddo i gyd,
'Does unman yn debyg i Rio.'
He, 'wyddet ti ddim 'mod i'n dipyn o fardd, na wyddet?"
"Mi wn i 'rwan," sylwodd Llew braidd yn sych, a'r gân "Cartref" yn gynnwrf hiraethus yn ei feddwl.
Sylwodd yr hen forwr ar ei dôn. "'Rydw' i'n cofio un llongwr—ia, ar y Moses Davies yr oeddan ni—yn marw o hiraeth. Ydw', 'nen' Duwc. Rhyw wythnos cyn inni gyrraedd Rio. Hogyn o'r enw—be' oedd 'i enw fo, hefyd? Ben rhwbath. Ben Williams, dywad? Naci, Ben Jones, oherwydd mi es i i weld 'i fedd o pan on i hefo' Dwalad' yn Sir Fôn yn fuan wedyn. Ia, Ben Jones. Hogyn clên oedd o hefyd, ond 'roedd o'n hiraethu a hiraethu a hiraethu am 'i gartra'. Gan fy mod inna'n un o'r Borth 'cw, 'roedd o bron â chrio bob tro yr cedd o'n fy ngweld i ar y dec. Na, 'wnaiff peth felly mo'r tro o gwbwl. Os llongwr, llongwr, yntê?"